Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cynllun Lesio Cymru

Datgloi manteision Cynllun Lesio Cymru yn Merthyr Tudful

P'un a ydych yn landlord profiadol â sawl eiddo neu wedi dod yn berchen ar eiddo yn ddiweddar, efallai trwy berthynas neu newid amgylchiadau, gallai Cynllun Lesio Cymru fod yn addas i chi.

Mae Cynllun Lesio Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan Awdurdodau Lleol. Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i chi lesio eich eiddo i'ch awdurdod lleol, ac fe gewch sicrwydd o incwm rhent misol didrafferth.

Manteision i berchnogion eiddo:

  • Incwm rhent gwarantedig didrafferth am hyd y les (ar y gyfradd Lwfans Tai Lleol perthnasol) – sy'n golygu na fydd unrhyw ôl-ddyledion rhent na chyfnodau pan fydd yr eiddo’n wag.
  • Grant o hyd at £25,000 i ddod â'r eiddo i safon rhentu.
  • Grant o hyd at £5,000 i gynyddu sgôr ynni eich eiddoi.(Yn amodol ar gymhwysedd ac argaeledd.)
  • Lesoedd rhwng 5 ac 20 mlynedd.
  • Archwiliadau eiddo, atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw (ar gyfer traul rhesymol i’r eiddo).
  • Rheolaeth lawn o'r eiddo a'r tenant am oes y les.

Cysylltwch â'ch tîm lleol arbenigol o gynghorwyr tai.

Mae ein tîm cymorth tai yn barod i dderbyn eich galwad a gallant ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cynllun. Unwaith y byddwch wedi penderfynu a yw'n addas i chi, gallwn wedyn helpu i'ch tywys drwy’r gweddill.

Ffoniwch ni heddiw: 01685 725000

E-bost: HousingGateway@merthyr.gov.uk

Gwybodaeth bellach

I gael gwybodaeth fanylach am Gynllun Lesio Cymru, gweler ein tudalen canllawiau pellach.

Cysylltwch â Ni