Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ardaloedd Adnewyddu
Prif ddiben Ardaloedd Adnewyddu yw gwella amodau byw mewn ardaloedd sydd angen eu hadfywio. Mae sail statudol Ardaloedd Adnewyddu wedi’i bennu yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Diwygio Rheoliadol (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002.
Er mai ar wella tai y mae’r prif bwyslais, mae Ardaloedd Adnewyddu’n cynnig manteision amgylcheddol sylweddol, newid cymdeithasol ac economaidd cadarnhaol ac yn aml yn symbylu hyder trigolion a buddsoddwyr.
Mae’r penderfyniad i ddatgan Ardal Adnewyddu’n cael ei wneud fel arfer ar sail tystiolaeth a gasglwyd o ganlyniad i arolwg sampl o gyflwr y stoc dai ac arolwg amgylcheddol. Mae tystiolaeth arall hefyd yn arwyddocaol, er enghraifft, lefelau o gyflogaeth ac iechyd, dau beth a fydd yn dylanwadu ar statws ardal o safbwynt amddifadedd lluosog.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi datgan tair Ardal Adnewyddu ffurfiol ers 2001:
- Ardal Adnewyddu Ynysowen: Gweithredol o Ebrill 2001 - Mawrth 2011.
- Ardal Adnewyddu Dowlais: Gweithredol o Fedi 2003 – Awst 2013
- Ardal Adnewyddu Bedlinog a Threlewis: Gweithredol o Fai 2011 – Ebrill 2014 (gydag opsiwn o ymestyn)
Caiff yr Ardaloedd Adnewyddu eu rheoli gan Dîm Adnewyddu Tai y Cyngor yn y Ganolfan Ddinesig, Merthyr Tudful, a gellir cysylltu â nhw dros y ffôn neu drwy e-bost gan ddefnyddio’r manylion ar waelod y dudalen hon.
Mae’r Tîm Adnewyddu Tai yn cyflwyno ceisiadau blynyddol am gyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r prosiectau a gynigir ar gyfer yr Ardaloedd Adnewyddu. Ers 2001, mae’r Tîm wedi ymgeisio’n llwyddiannus a derbyn dros £19 miliwn, sydd wedi cael ei ategu, ac yn mwyafrif o achosion, wedi ysgogi, tua £70 miliwn o fuddsoddiad preifat a thrydydd sector yn yr Ardaloedd Adnewyddu.
Mae prosiectau a gyflawnwyd o fewn yr Ardal Adnewyddu ddynodedig yn cynnwys:
- Nifer fawr o Gynlluniau Grwpiau Trwsio i dros 500 o gartrefi preifat
- Grantiau unigol: gan gynnwys Grantiau Cartrefi Gwag, Grantiau Cartrefi Cysurus, Grantiau Gwella, Grantiau Cymorth Atgyweirio Cartrefi
- Cynlluniau gwella amgylcheddol – darparu meysydd parcio cyhoeddus, tirlunio, ffensio, goleuadau stryd, mesurau diogelwch cartrefi
- Cynlluniau Priffyrdd a Thawelu Traffig: darparu rhwystrau igam-ogamu, bolardau, parcio oddi ar y stryd
Ers 2011 mae lefel yr ariannu gan Lywodraeth Cymru wedi disgyn yn sylweddol, tueddiad sy’n debygol o barhau i’r dyfodol. Am y rheswm hwn mae’n anodd gwneud cynlluniau pendant am brosiectau yn y dyfodol.
Os ydych chi’n byw naill ai o fewn ward Dowlais neu ward Bedlinog ac os hoffech wybod mwy am brosiectau arfaethedig neu gynnig rhai eich hun, cysylltwch â ni.