Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Gweithiwr Cymorth Preswyl - Nosweithiau (x4)
Cyfeirnod y swydd: RE-1648
Cyflog: £26,873.00 - I: £28,770.00
Graddfa Swydd: Gradd 4 / Grade 4
Oriau Swyddi: 31.5 Awr / 31.5 Hour
Lleoliad: Gwasanaethau Plant / Children Services
Arbenigol:


31.5 awr / Cyflog: Gradd 4 SCP 13-17= £26,873 - £28,770 y flwyddyn pro rata
= 85.13% - £22,876 - £24,491 y flwyddyn

Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymorth i helpu i sefydlu ein cartref plant preswyl ein hunain ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'r awdurdod lleol wrth i ni ddechrau sefydlu cangen breswyl i gefnogi rhai o'r plant a'r bobl ifanc sydd yn ein gofal. Fel Gweithiwr Cymorth, byddwch yn rhan annatod o ddarparu amgylchedd diogel lle bydd ein plant a'n pobl ifanc yn byw. Byddwch yn eu cefnogi i gyrraedd eu llawn botensial drwy roi cyfleoedd iddynt ffynnu. Bydd hyn yn cynnwys darparu cefnogaeth emosiynol a chymdeithasol, rheoli ymddygiad heriol a datblygu dealltwriaeth o drawma plentyndod cynnar a'r effaith ar y bobl ifanc yn ein gofal.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Warren Davies ar 01685 725000.

Rhaid i bob ymgeisydd newydd gwblhau cwrs Gwaith Cymraeg arlein 10 awr. Rhaid cwblhau rhan 1 a 2 o’r cwrs a dangos tystiolaeth o hyn cyn dechrau gweithio gyda’r Awdurdod. Am wybodaeth bellach am sut i gwblhau’r cwrs hwn ewch i: https://learnwelsh.cymru/

MEINI PRAWF HANFODOL
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol

Gwnewch gais ar-lein - www.merthyr.gov.uk

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 07.11.2024 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Rydym yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag yn gynharach na'r dyddiad cau.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau oddi wrth siaradwyr Cymraeg. Gellir cyflwyno ffurflenni cais yn y Gymraeg a ni chaiff unrhyw gais a gaiff ei gwblhau yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol mewn unrhyw ffordd na’r rheini a gyflwynir yn Saesneg.

Os byddwch yn llwyddiannus i gael eich rhoi ar restr fer ar gyfer cyfweliad, cysylltwch â human.resourcesadmin@merthyr.gov.uk i roi gwybod os hoffech i’r cyfweliad gael ei gynnal yn y Gymraeg.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.