Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Athro Arweiniol Trochi yn y Gymraeg
Cyfeirnod y swydd: RE-1932
Cyflog: £33,731.00 - I: £51,942.00
Graddfa Swydd: Gweler isod / See below
Oriau Swyddi: 32.5 Awr / 32.5 Hour
Lleoliad: Yn yr ysgolion / School based
Arbenigol:
Amser Penodedig - 1 mlynedd yn y cychwyn cyntaf
32.5 Awr Telerau ac Amodau Athrawon
£33,731 - £51,942 (ychwaneg TLR)

Arwain ar y gwaith o ddarparu trochi yn y Gymraeg yn effeithiol i gefnogi'r ddarpariaeth yng Nghyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful. Bydd hwn yn fodel rhannol peripatetig, a bydd y ddarpariaeth yn symud i safle statig o fis Medi 2027.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi dysgwyr sy'n hwyrddyfodiaid i'r Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg, yn ogystal â'r rhai sydd ar hyn o bryd mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac sydd angen cymorth ychwanegol wedi'i dargedu gyda'u caffael iaith.

Mae'r rôl hon yn rhan annatod o gyflawni'r canlyniadau sydd wedi'u cynnwys yng Nghynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful (CSAG) a bydd yn cefnogi'r ymrwymiadau a amlinellir yn Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Andrea May ar 01685 725000 neu ebostiwch Andrea.May@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 30.04.2026 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae gallu siarad Cymraeg yn hanfodol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.