Ar-lein, Mae'n arbed amser
Swyddi Gwag Presennol
Swyddi: Gweithiwr Cymdeithasol
Cyfeirnod y swydd: RE-1861
Cyflog: £41,771.00 - I: £47,181.00
Graddfa Swydd: Gradd 8 / Grade 8
Oriau Swyddi: 37 Awr / 37 Hours
Lleoliad: Y Ganolfan Ddinesig / Civic Centre
Arbenigol:
Mae swydd Gweithiwr Cymdeithasol yn y Tîm Plant a Theuluoedd, Gwasanaethau Plant yn cwblhau nifer o swyddogaethau a dyletswyddau statudol, gan gynnwys; amddiffyn a diogelu plant yn unol â Deddf Plant (1989) a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Bydd y gweithiwr cymdeithasol yn cyd-gynhyrchu asesiadau cymesur a Chynlluniau Gofal a Chymorth gyda theuluoedd ac asiantaethau partner, yn cynhyrchu adroddiadau llys ac yn ymgymryd â lleoli plant i'w Mabwysiadu. Bydd y gweithiwr cymdeithasol yn cynnal llwyth achos yn cefnogi plant sydd angen Gofal a Chymorth, plant y mae eu henwau ar y gofrestr Amddiffyn Plant a Phlant sy'n derbyn Gofal.
Bydd deiliad y swydd yn mynd ar drywydd ymholiadau mewn perthynas â honiadau o gam-drin plant (Deddf Plant 1989 Adran 47) ac yn dilyn gweithdrefnau Diogelu Cwm Taf a gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Gabriella Sidoli ar 01685 725000 neu ebostiwch Gabriella.Sidoli@merthyr.gov.uk
Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.
I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 18.12.2025 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.
Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth