Ar-lein, Mae'n arbed amser

Swyddi Gwag Presennol

Swyddi: Seicolegydd Addysgol Cynorthwyol – Dechrau'n Deg
Cyfeirnod y swydd: RE-1881
Cyflog: £36,109.00 - I: £40,325.00
Graddfa Swydd: Gweler Isod / See Below
Oriau Swyddi: 18.5 Awr / 18.5 Hour
Lleoliad: Cwm Golau, Canolfan Plant Integredig / Cwm Golau, Integrated Children’s Centre
Arbenigol:


Sefydlog tan Fawrth 2027
18.5 Awr (50%) - £36,109 - £40,325 y flwyddyn yn gyfrannol
= £18,054 - £20,162 y flwyddyn

Cwm Golau, Canolfan Plant Integredig, Pentrebach, Merthyr Tudful a Gweithio Hyblyg

Cynorthwyo gyda darparu Gwasanaethau Seicoleg Addysgol i blant a'u teuluoedd, gan ganolbwyntio’n benodol ar blant 0-4 oed. Helpu i ddarparu gwasanaethau seicolegol i deuluoedd, lleoliadau blynyddoedd cynnar, cymunedau lleol ac asiantaethau eraill.

Gweithio mewn ymgynghoriad ag ystod o weithwyr proffesiynol i ddatblygu strategaethau ymyrraeth a fydd yn gwella ansawdd bywydau, dysgu a lles plant a theuluoedd. O dan oruchwyliaeth yr Uwch EP Arbenigwr Dechrau'n Deg, bydd hyn yn cefnogi'r broses asesu a'r ymyrraeth gyda phlant, eu teuluoedd, a gweithio ar y cyd â gweithwyr proffesiynol i awgrymu ymyriadau i sicrhau newid.

Cyflwyno a chefnogi'r gwaith o ddatblygu Model Blynyddoedd Cynnar effeithiol ac arloesol o Ddarparu Gwasanaethau, gan gynnwys ymgynghori ac ymyrraeth uniongyrchol, ymgynghori grwp a hyfforddiant o dan arweiniad a goruchwyliaeth Uwch Seicolegydd Addysg Arbenigol Dechrau'n Deg yn ôl y gofyn.

Bydd gweithrediadau o ddydd i ddydd, goruchwyliaeth broffesiynol a Datblygiad Personol Parhaus yn cael eu darparu gan yr Uwch Seicolegydd Addysg.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Laurie Davies / Sarah Ostler ar 01685 725000 neu ebostiwch Laurie.Davies@merthyr.gov.uk / Sarah.Ostler@merthyr.gov.uk

Bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'r holl gymwysterau a nodir yn hanfodol.

I gael ffurflen gais ffoniwch 01685 725000. Dychwelwch eich ffurflen erbyn 19.02.2026 i’r Adran Adnoddau Dynol, Canolfan Ddinesig, Stryd Y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

Ebost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn dymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo o warchod a diolgelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae’n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â’r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a’r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson di-awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod eich cyflogaeth neu wedi i chi adael y swydd. Yr unig eithriadau yw pan fo disgwyl i chi wneud hynny dan eich amodau gwaith neu pan fo’n ofynnol gan y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, neu’r ddau. Fe all dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain fel Cyflogwr o Ddewis, yn ymrwymedig i hyrwyddo ac integreiddio cydraddoldeb i bob agwedd o’n gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ceisiadau gan bob grwp a chefndir i geisio ac ymuno gyda ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym yn ymroddedig i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle ac yn sicrhau nad oes dim gwahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dewis ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth rhywedd, beichiogrwydd neu famolaeth.