Ar-lein, Mae'n arbed amser
Addysg Gartref Ddewisol (AGDd)
Addysgu eich plentyn gartref
Mae rhai rhieni yn dewis addysgu eu plant gartref am amryw o resymau. Mae’r Awdurdod Lleol (ALl) yn cefnogi hawl rhieni i addysgu eu plant gartref.
Beth ddylech wneud os ydych am addysgu eich plentyn gartref?
Os yw eich plentyn yn mynychu Ysgol, dylech hysbysu’r pennaeth, yn ysgrifenedig. Bydd y pennaeth yn cysylltu gyda’r ALl.
Os nad yw eich plentyn wedi mynychu Ysgol, does dim angen caniatâd arnoch, ond gallwch ddewis rhoi gwybod i’r ALl o’ch bwriad.
Beth yw cyfrifoldeb rhieni?
“Bydd rhieni pob plentyn o oed Ysgol statudol yn gyfrifol am iddo e/hi dderbyn addysg effeithlon lawn amser priodol,
(a) i’w oedran, gallu a diddordeb a
(b) unrhyw anghenion addysgol ychwanegol sydd ganddo/i,
Un ai trwy fynychu Ysgol neu fel arall”
(Adran 7, Deddf Addysg 1996).
Mewn termau cyfreithiol mae addysg yn ‘effeithlon’ os yw yn cyflawni ac yn ‘briodol’ os yw’r addysg yn paratoi’r plentyn at fywyd mewn Cymdeithas fodern ac yn galluogi’r plentyn i gyrraedd ei lawn/llawn botensial.
Beth yw cyfrifoldebau’r ALl?
Mae’r ALl angen eu bodloni bod plant yn derbyn darpariaeth addysg briodol. Er mwyn gwneud bydd y swyddog gyda chyfrifoldeb am addysg gartref yn cysylltu gyda’r teulu i drafod eu cynlluniau a chynnig cefnogaeth ac arweiniad.
Cyswllt
Tîm Cynhwysiant (SIY/ST/AGDd)
Ty Dysgu Dowlais
Stryd y Farchnad
Dowlais
Merthyr Tudful
CF48 3HW
Rhif Ffôn: 01685 725000
E-bost: merthyrhomeed@merthyr.gov.uk