Ar-lein, Mae'n arbed amser

Perchennog Glannau’r Afon

Er efallai nad oeddech yn sylweddoli cyn hyn, os ydych yn berchen tir cyfagos i gwrs dŵr neu dir lle mae cwrs dŵr yn rhedeg trwyddo neu oddi tano, yn ôl y gyfraith chi yw ‘Perchennog Glannau’r Afon’.

Yn ogystal â hawliau penodol i’r cwrs dwr, mae gan berchnogion glannau’r afon eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau eu hunain y mae’n rhwymedigaeth gyfreithiol eu bod yn eu cyflawni. Yn yr un modd, mae’r rhain yn berthnasol i awdurdodau lleol os mai nhw yw perchennog y tir. Bwriad y cyfrifoldebau hyn yw helpu i reoli perygl llifogydd a gwarchod yr amgylchedd.

Rydych chi’n berchennog glannau’r afon…..

Os oes gennych gwrs dŵr cyffredin neu brif afon yn rhedeg drwy eich tir, oddi tano neu ar hyd ffin eich eiddo mae’n debygol eich bod yn berchennog glannau’r afon ar gyfer y darn hwnnw o’r cwrs dŵr(oni bai ei bod yn hysbys bod y cwrs dŵr yn eiddo i rywun arall).

Os nad ydych chi’n berchen ar y tir yr ochr arall i’r cwrs dwr, tybir eich bod yn gyd berchennog glannau’r afon gyda pherchennog y tir ar yr ochr arall. Mewn achos o gyd berchnogaeth glannau’r tir,  tybir fod bob parti yn berchen hyd at linell ganol y cwrs dŵr ac felly’n gyfrifol hyd y rhan hwn.

 

Eich hawliau:
  • I dderbyn llif o ddŵr yn ei gyflwr naturiol, heb unrhyw ymyrraeth ormodol o ran maint neu ansawdd.
  • I warchod eich eiddo yn erbyn llifogydd a gwarchod eich tir rhag erydiad.

 

Eich cyfrifoldebau:
  • Cynnal y cwrs dŵr a chlirio unrhyw rwystrau (naturiol neu arall) fel nad yw llif naturiol y dŵr yn cael ei atal.
  • Derbyn llif naturiol y dŵr gan eich cymydog i fyny’r afon a’i drosglwyddo i lawr yr afon heb rwystr, llygredd na dargyfeiriad.
  • Cynnal glannau a gwely’r cwrs dŵr (gan gynnwys coed a llwyni sy’n tyfu ar y glannau) ac unrhyw amddiffynion llifogydd sy’n bodoli arno.
  • Cynnal unrhyw strwythurau ar eich darn o gwrs dŵr gan gynnwys ceuffosydd, cored a chlwydi melin.
  • Cadw'r gwely a'r glannau'n glir o unrhyw fater a allai achosi rhwystr a glanhau unrhyw rwbel, naturiol neu fel arall, hyd yn oed os nad yw'n tarddu o'ch tir. 

 

Beth sydd yn digwydd os nad yw perchennog glannau'r afon yn ymgymryd â'i gyfrifoldebau?

Mae cynnal a chadw a glanhau cyrsiau dŵr cyffredin yn hanfodol i reoli perygl llifogydd ac ni allwn bwysleisio ddigon pa mor bwysig yw cynnal a chadw'n rheolaidd.

Os byddwch yn methu â chynnal llif rhydd cwrs dŵr, a bod llifogydd yn digwydd o ganlyniad i hynny, gallech wynebu camau cyfreithiol.

 

Gwneud newidiadau i'r cwrs dŵr

Ni all perchennog glannau'r afon wneud unrhyw waith, oni bai am lanhau a chynnal a chadw arferol (fel tynnu chwyn neu rwbel) mewn cwrs dŵr neu'n gyfagos iddo heb ganiatâd y corff rheoleiddio.

Cysylltwch â Ni