Ar-lein, Mae'n arbed amser
Carthffosydd a Phrif Gyflenwadau Dŵr
Dŵr Cymru Welsh Water sy'n gyfrifol am garthffosydd dŵr wyneb cyhoeddus, carthffosydd budr cyhoeddus a phrif gyflenwadau dŵr glan.
Pasiwyd rheoliadau trosglwyddo carthffos breifat gan Lywodraeth Cymru ar 21 Mehefin. Rhoddwyd y rheoliadau'n ymwneud â'r trosglwyddo ar waith o 1 Gorffennaf 2011. Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn golygu y bydd Dŵr Cymru Welsh Water yn cymryd y cyfrifoldeb drosodd am y rhan fwyaf o beipiau dŵr sydd ar hyn o bryd yn perthyn i berchnogion tai.
Os oes gennych broblem gyda charthffos neu am ragor o wybodaeth yn ymwneud â phwy sy'n gyfrifol am ddraeniau a charthffosydd yn eich eiddo, ewch ar wefan Dŵr Cymru Welsh Water neu cysylltwch â Dŵr Cymru ar 0800 085 3968.
Os oes gennych unrhyw broblemau gyda phrif gyflenwadau dŵr neu wasanaethau, ewch ar wefan Dŵr Cymru Welsh Water neu ffoniwch 0800 052 0130.