Ar-lein, Mae'n arbed amser

Fabwysiadu

Lle y mae’r cyfrifoldeb i fabwysiadu yn berthnasol?

O dan Atodlen 3, Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, yn destun i’r amodau sy’n cael eu gosod, mae’n rhaid i’r Awdurdod Lleol fabwysiadu SuDS sy’n gweinyddu 2 neu fwy o eiddo.

Lle nad yw’n berthnasol?

Nid yw’r cyfrifoldeb i fabwysiadu yn berthnasol os yw’r system yn gweinyddu safle sy’n cael ei reoli gan berson unigol neu ddau neu fwy o unigolion ar y cyd, fel sy’n cael ei ddiffinio yn y rheoliadau. 

Mae manylion y mathau o ddatblygiadau yn cael eu manylu isod:

  • Adeiladau preswyl sydd â nifer o fflatiau
  • Annedd preswyl unigol
  • Cyfadeilad ymddeol
  • Swyddfa neu adeilad masnachol
  • Datblygiad diwydiannol neu ystâd fasnachol
  • Campws ysgol neu goleg
  • Clwb chwaraeon
  • Ysbyty neu gyfleuster meddygol arall

Beth fyddwn ni’n ei fabwysiadu? 

Trwy fabwysiadu system SuDS, dylai SAB gymryd cyfrifoldeb am y system gyfan (allai gynnwys pibau a stordai tanddaearol yn ogystal â nodweddion gwyrdd tebyg i bantiau) hyd nes bod llifiadau’n gadael y system i naill ai gael eu hailddefnyddio neu gael mynediad i’r ddaear neu gorff dŵr ar yr arwyneb neu’r rhwydwaith gwastraff.  

Amodau mabwysiadu ddylai gael eu bodloni?

Mae’n ofynnol i SAB fabwysiadu systemau draenio sy’n bodloni amodau penodol. Nid yw’r cyfrifoldeb mabwysiadu yn berthnasol i SuDS sy’n gweinyddu eiddo unigol na ffyrdd sy’n cael eu cynnal yn gyhoeddus.

Dylid bodloni’r amodau canlynol:

  • fod y system ddraenio wedi ei hadeiladu ac yn gweithio yn unol ag argymhellion sydd wedi eu cymeradwy, gan gynnwys unrhyw amodau i’w cymeradwyo a, 
  • fod y system ddraenio yn “system ddraenio gynaliadwy,” sy’n golygu’r rhannau hynny o’r system ddraenio na freiniwyd gan weithredwr gwastraff o dan adran 104 o gytundeb Deddf Diwydiant Dŵr 1991.

Unwaith y bydd amodau’r gymeradwyaeth wedi eu cyflawni, gan gynnwys unrhyw gyfnod sydd ei angen ar gyfer sefydlu llystyfiant, gall y SAB benderfynu  mabwysiadu’r system ddraenio neu ymateb i gais gan y datblygwr. Dylai unrhyw gais i fabwysiadu cael ei bennu gan SAB oddi fewn i 8 wythnos. Gall fethiant i wneud hynny, oddi fewn i’r amser hynny gael ei bennu fel gwrthodiad i fabwysiadu oni bai fod cytundeb eisoes yn ei le gyda’r ddau barti i ymestyn yr amserlen. 

 

Cynnal a chadw ac Ariannu

Disgwylir i’r datblygwr ddatblygu a chynhyrchu, mewn partneriaeth â SAB, gynllun cynnal a chadw a’r modd y bydd y cynllun yn cael ei ariannu trwy gydol ei gyfnod gweithredol.

Lle y bydd gan SAB gyfrifoldeb i fabwysiadu, y corff fydd yn gyfrifol am sicrhau fod y system ddraenio a fabwysiadir yn cael ei chynnal yn unol â Safonau statudol SuDS.

Wrth sicrhau cytundebau i gefnogi trefniadau cynnal a chadw, gan gynnwys unrhyw swm cynhaliaeth ohiriedig neu ariannu cynnal a chadw, gall SAB ddymuno dibynnu ar bwerau sydd eisoes ar gael ar gyfer awdurdodau lleol o dan ddeddfwriaeth llywodraeth leol.

Er mwyn sicrhau cysondeb ledled Cymru, rydym yn argymell defnyddio canllaw safonau’r diwydiant “Symiau Cynhaliaeth Ohiriedig ar gyfer Cynnal Asedau Seilwaith” sydd wedi ei baratoi gan y CSS (Cymdeithas Sirol y Syrfewyr,) er mwyn cyfrifo symiau cynhaliaeth ohiriedig ar gyfer holl asedau draenio sy’n cael eu mabwysiadu gan SAB.

Cysylltwch â Ni