Ar-lein, Mae'n arbed amser

Apeliadau

Beth os fyddaf am apelio dyfarniad sydd wedi cael ei wneud gan SAB? 

Credwn mai ceisio negodi ateb yw’r ffordd orau o ymdrin ag anghydfodau sy’n ymwneud â phenderfyniadau SAB. Fodd bynnag, darperir ffordd ffurfiol o apelio penderfyniad sydd wedi cael ei wneud gan SAB i Weinidogion Cymru yn y Rheoliadau.

Cynhwysir manylion llawn y weithdrefn ar gyfer apeliadau gan gynnwys sut mae apeliadau yn cael eu gwneud, y wybodaeth y dylid ei chynnwys, swyddogaeth SAB yn darparu gwybodaeth, amserlenni ar gyfer penderfynu ar apeliadau a swyddogaethau penodol ar gyfer gweinidogion Cymru yn y Rheoliadau.

Dylid nodi nad yw gwneud apêl yn gohirio penderfyniad ac na ddylai datblygwr sy’n apelio yn erbyn amod ddechrau adeiladu. 

Gall apeliadau gael eu cyflwyno’n electronig neu drwy’r post. Gall apêl gael ei thynnu yn ôl ar unrhyw adeg gan yr apeliwr drwy hysbysu Gweinidogion Cymru o hynny, yn ysgrifenedig (PIN), a darparu copi i SAB.

Cysylltwch â Ni