Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gorfodi

Lle y cred SAB fod y cytundeb gwreiddiol wedi ei dorri a; 

  • fod y system ddraenio naill ai heb ei hadeiladu yn ôl y cynllun arfaethedig neu;
  • heb ei chwblhau

gall SAB ymarfer pwerau gorfodi a gyflwynwyd o dan Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. 

O dan y Gorchymyn Gorfodi, os yw datblygwr yn torri gofyniad i’w gymeradwyo, gall SAB gyflwyno hysbysiad gorfodi. Gall hysbysiad gorfodi gael ei roi ar unrhyw adeg cyn i system ddraenio gael ei mabwysiadu. Gallai’r hysbysiad gorfodi fynnu fod datblygwr yn cymryd camau i gywiro cam neu ble y tybia SAB na all mater gael ei ddatrys, gall SAB drefnu bod unrhyw gamgymeriadau yn cael eu datrys a bod y datblygwr yn talu amdanynt.

Gall datblygwr sy’n derbyn hysbysiad gorfodi, apelio yn erbyn y penderfyniad i Weinidogion Cymru (PIN) ar sail y ffaith fod y penderfyniad naill ai yn un ffeithiol anghywir, yn anghywir yn llygaid y gyfraith, yn afresymol neu na thorwyd unrhyw ofyniad i’w gymeradwyo. 

Cysylltwch â Ni