Ar-lein, Mae'n arbed amser

SAB Cyngor a cyfarwyddyd

 

 

 

7 Ionawr 2019,  bydd yn ofynnol i bob datblygiad newydd ag o leiaf 2 eiddo neu dros 100m2 o arwynebedd adeiladu gael draenio cynaliadwy i reoli dŵr ar arwyneb y safle.  Rhaid i’r systemau draenio dŵr arwyneb gael eu dylunio a’u hadeiladu yn unol â safonau ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. 

Rhaid i’r systemau hyn gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol sy’n gweithredu yn ôl ei rôl Corff Cymeradwyo SuDS (y Corff) cyn bod y gwaith adeiladu yn dechrau. Bydd dyletswydd ar y Corff i fabwysiadau systemau sy’n cydymffurfio.

At ba ddeddfwriaeth ydym ni’n cyfeirio ati?

Mae Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (y Ddeddf) yn gofyn bod draeniad dŵr arwyneb ar gyfer datblygiadau newydd yn cydsynio â Safonau Cenedlaethol gorfodol ar gyfer draeniad cynaliadwy (SuDS). Mae’r safonau statudol wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru a gellir dod o hyd iddynt drwy ddilyn y ddolen ganlynol. Canllawiau Statudol ar Ddraenio Cynaliadwy

Mae Atodlen 3 hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol fel Corff Cymeradwyo SuDS i gymeradwyo, mabwysiadu a chynnal systemau sy’n cydsynio ag adran 17 o’r Ddeddf. Am wybodaeth bellach am y ddeddfwriaeth, ewch i Atodlen 3 Deddf Llifogydd a Dwr

Canllaw ar Atodlen 3, Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi drafftio canllaw er mwyn cynorthwyo Awdurdodau Lleol a Datblygwyr i ddeall y broses yn well. Mae’r ddogfen ganllaw yn darparu gwybodaeth bwysig ar y rheoliadau newydd a gellir dod o hyd iddi drwy ddefnyddio’r ddolen isod.

Beth yn hollol yw SAB?

Gwasanaeth a gaiff ei gyflenwi gan yr awdurdod lleol yw SAB i sicrhau fod ceisiadau draenio ar gyfer yr holl ddatblygiadau newydd ag o leiaf 2 eiddo neu dros 100m2 o arwynebedd adeiladu yn ffit i bwrpas, wedi eu dylunio a’u hadeiladu yn unol â safonau cenedlaethol ar gyfer draeniad cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.

Caiff y Corff ei sefydlu er mwyn:

  • Darparu gwasanaeth gwneud cais ymlaen llaw i drafod eich cynnig
  • Gwerthuso a chymeradwyo ceisiadau draeniad ar gyfer datblygiadau newydd ble mae goblygiadau draenio gan waith adeiladu, a
  • Mabwysiadu a chynnal systemau draenio dŵr arwyneb yn unol ag Adran 17 Atodlen 3 (y Ddeddf).

Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer fy natblygiad?

P’un a ydych yn ddatblygwr, yn asiant neu’n unigolyn sy’n ceisio cael caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad, os yw eich datblygiad yn cynnwys 2 eiddo neu fwy neu dros 100m2 o arwynebedd adeiladu yna rhaid i chi gael cymeradwyaeth y Corff yn annibynnol o’ch gymeradwyaeth cynllunio.  Dim ond ar ôl i’r 2 ganiatâd gael eu cyflwyno y gall yr adeiladu ddechrau.

O ran safleoedd a datblygiadau â chaniatâd cynllunio wedi ei roi, neu y tybir ei fod wedi ei roi (boed yn amodol ar unrhyw amodau ai peidio) neu y mae cais dilys wedi ei dderbyn ond heb ei bennu erbyn 7 Ionawr 2019, ni fydd yn ofynnol gwneud cais am gymeradwyaeth y Corff ar eu cyfer.

Fodd bynnag, bydd cymeradwyaeth y Corff yn parhau i fod yn ofynnol os gafodd y caniatâd cyflwyno ei gyflwyno yn amodol ar amod a bod cais am ryddhad o’r amodau heb ei wneud cyn 7 Ionawr 2020. 

Sut ydw i’n ceisio cael cymeradwyaeth y Corff?

Bydd y Corff yn cynnig gwasanaeth cyn gwneud cais, codir tâl am hyn, i drafod eich safle yn fanwl, gofynion draenio a beth sydd angen ei gyflwyno gyda’ch cais. Er y bydd y broses hon ar wahân i’r broses cynllunio cais, bydd angen i drafodaeth ac ymgynghoriad rhwng yr Awdurdod Cynllunio Lleol, y Corff a’r datblygwr ddigwydd o gyfnod cyn gwneud y cais i sicrhau addasrwydd dyluniad arfaethedig y SuDs yn unol â safonau cenedlaethol, gosodiad digonol y safle a chymeradwyaeth SAB yn y diwedd. Mae’r gwasanaeth hwn a fydd yn flaenllaw i helpu cyfyngu oedi i gymeradwyo a lleihau costau yn yr hir dymor yn cael ei annog yn gryf cyn cyflwyno eich cais cyflawn.

Bydd y ffurflenni cais a’r ddogfennaeth atodol ar gael i’w lawrlwytho o’r Porth Cynllunio ac oddi wrth eich Corff lleol o ganol mis Hydref. Bydd angen i gyflwyniadau eraill gael eu gwneud yn i’r Corff perthnasol am na ellir cwblhau’r rhain na’u cyflwyno drwy’r Parth Cynllunio.

Sut ydw i’n cysylltu â fy Nghorff?

Y dyddiad dechrau ar gyfer y gofynion cymeradwyo yw 7 Ionawr 2019 ac rydym ar hyn o bryd yn sefydlu’n gwasanaeth newydd i ddelio â’ch ceisiadau a thudalen arbennig ar y we i roi gwybodaeth ychwanegol i chi wrth iddo ddyfod ar gael.

Os hoffech fwy o wybodaeth am y broses newydd hon, cysylltwch â Swyddog SAB Cyngor Merthyr gan ddefnyddio’r manylion isod:

E-bost: SAB@merthyr.gov.uk

Ffôn: 01685 725000

Mae llawer o wybodaeth ar gael ac mae’r tudalennau gwe canlynol yn adnodd defnyddiol am ddim i gael rhagor o wybodaeth am Ddraenio Cynaliadwy ac i’ch helpu chi i ddeall yr hyn y bydd angen i chi ei ystyried. 

Cysylltwch â Ni