Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ffurflenni cais SAB

Ffurflenni Cais

Defnyddiwch y dolenni isod er mwyn lawr-lwytho ffurflenni cais cyn ymgeisio a ffurflenni cais llawn ar gyfer eu cyflwyno i Gorff Cymeradwyo SUDS CBSMT. Yma, gallwch hefyd lawr-lwytho canllawiau manwl ar sut i gwblhau ffurflenni cais a ffurflen i dystiolaethu rhyddhau o unrhyw amodau cysylltiedig. 

Er mwyn sicrhau bod eich cais yn cael ei ddilysu a’i awdurdodi heb i unrhyw faterion achosi oedi i’ch cais ac i’r datblygiad, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn gofyn am gyngor cyn ymgeisio.  

Taliadau

Gall taliadau gael eu gwneud ar gerdyn credyd neu ddebyd drwy ffonio 01685 726271. 

Am ragor o gymorth gyda’ch cais, e-bostiwch SAB@merthyr.gov.uk neu ffoniwch ni ar 01685 725000.

Unwaith bydd eich cais wedi ei gwblhau, gallwch ei anfon, naill ai drwy’r post i SAB CBSMT, Ystafell  146, Uned 5, Parc Busnes Triongl, Merthyr Tudful, CF48 4TQ neu ar e-bostio at SAB@merthyr.gov.uk(Nodwch y bydd cyfyngiad o 10MB ar bob cyflwyniad e-bost.)

Cysylltwch â Ni