Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwneud cais am bafin isel.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn er mwyn gwneud cais am bafin isel.

Os ydych yn ystyried adeiladu mynediad i’ch eiddo i alluogi cerbyd domestig neu gerbyd preifat tebyg ar gyfer nwyddau ysgafn groesi eich llwybr troed, bydd angen i chi wneud cais i Adran Briffyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i gael cymeradwyaeth. Gweler rhestr o’n prisiau cyfredol

Prosesu cais am bafin isel i alluogi mynediad at eich eiddo

Mae’n ofynnol cael caniatâd ar gyfer pafinau isel newydd oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, ac eithrio mewn perthynas â chefnffyrdd sy’n cael eu rheoli gan Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Dylai unrhyw gwestiynau sy’n berthnasol i’r ffyrdd hyn gael eu cyfeirio atyn nhw yn hytrach na Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Ystyriaethau Cyfreithiol

Fel arfer nid yw caniatâd cynllunio yn ofynnol ar gyfer gwaith o’r fath, ond mae’n bosibl y byddai pe bai’r eiddo cynwysedig yn:

  • wynebu ffordd ddosbarthiadol yn uniongyrchol
  • adeilad rhestredig neu mewn ardal gadwraeth
  • rhywbeth amgenach na thŷ ar gyfer teulu unigol, fel fflat, maisonette, adeilad masnachol neu ddiwydiannol
  • Ar ôl cael caniatâd cynllunio neu lythyr sy’n dweud nad oes ei angen arnoch, neu os ydych chi’n byw ar ffordd ddi-ddosbarth, gallwch wneud cais am ganiatâd i adeiladu mynediad i gerbyd oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Os rhoddir caniatâd bydd y Cyngor yn anfon rhestr o gyfarwyddiadau i chi. Mae Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 yn datgan ei bod yn drosedd cyflawni gwaith gan unrhyw un sydd heb achrediad. Bydd y Cyngor yn ymgymryd â’r gwaith ar eich rhan os dymunwch hynny. Darperir dyfynbris am y gwaith ond ni fydd unrhyw waith yn dechrau nes bod siec wedi ei thalu a’i chlirio drwy Gyfrif yr Awdurdod. Rydych chi hefyd yn gallu defnyddio eich Contractwr eich hun ar yr amod bod ganddo’r achrediad cywir a’r Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus cywir.

Gwneud Cais am Bafin isel Newydd

Os ydych am wneud cais am Bafin isel newydd defnyddiwch ein ffurflen Ffurflen Cais am Bafin isel ar-lein neu cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r wybodaeth gyswllt ar waelod y dudalen.

Hysbysiad Pwysig

Wrth adeiladu croesfan i gerbyd, mae hyn yn rhoi’r hawl i yrru ar draws y palmant er mwyn cael mynediad i’r eiddo gyda char modur preifat neu nwyddau ysgafn yn unig. Mae’r groesfan ei hun yn rhan o’r ffordd gyhoeddus ac nid oes unrhyw hawl i barcio arni. O’r dyddiad mae’r Cyngor yn derbyn y groesfan wedi ei chwblhau, bydd y Cyngor yn cymryd cyfrifoldeb dros ei chynnal a’i chadw heb godi pris ar y preswylydd, ac eithrio yn sgil unrhyw ddifrod a achosir wrth ddefnyddio cerbydau trwm, ac yn y blaen. Am hynny, rhaid i’r groesfan gael ei hadeiladu yn ôl Manyleb y Cyngor.

Oeddech chi’n chwilio am?