Ar-lein, Mae'n arbed amser
Grât Gwli Coll neu Orchudd Twll Archwilio Coll
Os byddwch yn gweld gorchudd twll archwilio neu grât gwli sydd wedi torri, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i roi gwybod amdano.
Byddwn yn ei archwilio mor gyflym ag sy’n bosibl, gan wneud yr ardal yn ddiogel a rhoi gwybod i’r sefydliad perthnasol.
Adrodd am Orchudd Twll Archwilio
Mae gorchuddion tyllau archwilio i’w canfod ar strydoedd a phalmentydd, maen nhw’n solid ac fel arfer yn eiddo i Ddŵr Cymru neu CBSMT. Os mai eiddo Dŵr Cymru ydyw, byddwn yn mynd i’r safle a gwneud yr ardal yn ddiogel cyn gynted ag sy’n bosibl.
Mae gratiau gwli i’w canfod ar ymyl y ffordd ac maen nhw’n gadael i ddŵr glaw ddraenio i ffwrdd.