Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cynnal a chadw - arolygon strwythurol

Arolygon Mecanyddol o Gyflwr Ffyrdd

Gwneir archwiliadau SCANNER a SCRIM ar ran adain priffyrdd y Cyngor Bwrdeistref Sirol. Gwneir yr archwiliadau strwythurol hyn ar ran yr Awdurdod gan gontractwyr arbenigol yn bennaf, yn defnyddio cerbydau ac offer soffistigedig iawn i wneud yr arolygon.

Mae peiriannau arolygu SCANNER yn casglu amrywiaeth o ddata ar geometreg ffyrdd, fel graddiant, goleddf croes a chrymedd.

Mae SCRIM (Sideways force Coefficient Routine Investigation Machine) – yn cael ei ddefnyddio i fesur gwrthsafiad wyneb ffyrdd i sglefriad mewn amodau gwlyb.

Cofrestr Atgyweirio Strwythurol

Mae'r Grŵp Rhwydwaith Priffyrdd yn dadansoddi canlyniadau'r arolygon hyn ac yn ychwanegu unrhyw ofynion cynllun i gofrestr atgyweirio strwythurol.  Mae'r gofrestr yn flaenraglen o waith canfyddedig y mae cyllideb wedi, ac heb, ei nodi ar ei gyfer.  Mae pob cynllun yn cael ei brisio a'i flaenoriaethu ar y gofrestr er mwyn i'r gwaith fynd yn ei flaen, os oes cyllid ar gael. 

Mae'n ofynnol i bob swyddog priffyrdd gofnodi, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, gwaith fydd ei angen yn y dyfodol, y maent wedi ei ganfod eu hunain o ganlyniad i arolygon priffyrdd ffurfiol neu anffurfiol, a chynnwys manylion y gwaith hwn yn y gofrestr atgyweirio strwythurol.

 

 

 

Oeddech chi’n chwilio am?