Ar-lein, Mae'n arbed amser
Slabiau sydd wedi'u dwyn
Mae dwyn cerrig palmant neu fflagenni a gwaith haearn megis gorchuddion tyllau archwilio a chewyll rhigolau yn dramgwydd troseddol. Yn ogystal ag effeithio’n ariannol ar ein hadnoddau, gall hefyd achosi peryglon ar gyfer cerddwyr a beicwyr.
Er ei fod yn ddigwyddiad prin ym Merthyr, rhaid ymateb iddo heb oedi. Os byddwch yn sylwi fod slabiau, cerrig o bontydd a waliau, gwaith haearn ac ati ar goll, rhowch wybod i ni am yr union leoliad trwy ffonio rhif Gofal Cwsmeriaid yr adain Priffyrdd gan ddefnyddio’r manylion isod. Gofynnwn am gymaint o fanylion ag y gellir o leoliad yr eitemau sydd ar goll. Byddwn yn mynd i’r safle cyn gynted ag y gallwn i’w wneud yn ddiogel.
Os gwelwch unrhyw un yn cymryd eitemau o’r fath, peidiwch â cheisio’u rhwystro. Ysgrifennwch nodiadau am y math o gerbyd, y rhif cofrestru a disgrifiad o’r bobl sy’n gyfrifol, a ffoniwch yr heddlu’n syth ar 101.