Ar-lein, Mae'n arbed amser
Adrodd am geudyllau
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn er mwyn nodi twll yn y ffordd.
Beth yw ceudyllau?
Caiff Ceudyllau eu hachosi gan amryw o resymau, boed yn fethiant ar yr arwyneb neu’r is-wyneb.
Mae ceudyllau’n beryglus i ddefnyddwyr ffordd a cherddwyr, gan fod y risg o ddifrodi cerbyd ac o gael anaf yn cynyddu. Os nad ydynt yn cael eu trin, gall ceudyllau ddirywio, cynyddu yn eu maint ac effeithio ar rannau eraill o arwyneb y ffordd.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful gyfrifoldeb i gynnal a chadw ei phriffyrdd am gost sy’n rhesymol i’r cyhoedd (Deddf Priffyrdd 1980 - S. 41) ac mae bron yr holl hawliadau ceudyllau a gaiff eu gwneud yn erbyn yr awdurdod yn codi yn sgil torri amodau’r adran hon o’r Ddeddf Priffyrdd.
Beth yw’r broses o ddelio â cheudyllau a sut ydym ni’n blaenoriaethu?
Ein prif flaenoriaeth yw diogelwch, er y bydd yna achlysuron yn ystod llifogydd ac eira trwm ayb pan y bydd amodau hinsawdd yn datgan na fydd y dull gweithredu arferol yn bosibl.
Y man cychwyn arferol i atgyweirio diffyg yw archwiliad gweledol gan Arolygwr Priffyrdd, fel rhan o’i archwiliad diogelwch arferol neu o ganlyniad i gais gwasanaeth oddi wrth y cyhoedd.
Os yw’r meini prawf ymyrryd yn arwain at ‘weithredu’, yna byddai’r arolygydd yn marcio o gwmpas y diffyg a chyhoeddi gorchymyn gwaith i’r tîm cynnal a chadw priffyrdd.
Ar ôl i chi roi gwybod am geudwll, bydd archwiliwr yn ymweld â’r safle i asesu a oes angen gwneud gwaith yno.