Ar-lein, Mae'n arbed amser
Draenio priffyrdd a gylïau wedi'u blocio
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn er mwyn hysbysu am ddraen neu gwter sy’n llawn.
Mae gylïau a draeniau eraill y ffordd yn galluogi dŵr arwyneb i ddraenio oddi ar y ffordd neu’r llwybr troed. Gall dail neu sbwriel neu wreiddiau coed flocio gylïau. Ar ôl blocio, ni all unrhyw ddŵr arwyneb glirio i ffwrdd o’r ffordd na’r palmant yn iawn. Gall hyn arwain at byllau mawr neu hyd yn oed lifogydd ar y ffordd.
Rydym yn cyflawni cynnal a chadw ar ein gylïau drwy weithredu system o lanhau gyli yn ôl amserlen mewn argyfwng. Pan fydd llawer o ddail yn cwympo, rydym ni hefyd yn ceisio cadw’r ffyrdd yn glir o’r dail sy’n blocio’r gylïau, ond mae problemau’n parhau i allu digwydd. Cyn gynted ag yr ydym yn derbyn adroddiad am broblem, rydym yn ei ychwanegu at ein hamserlen archwilio. Mae amseroedd ymateb yn dibynnu ar leoliad a maint y broblem.
Mae nifer o resymau pam y gall gylïau stopio gweithio ac rydym bob amser yn ddiolchgar am help o ran dynodi gylïau sy’n broblem. Yr hydref yw’r adeg prysuraf o’r flwyddyn i’n Timau Priffyrdd gan ei fod yn aml yn anodd cadw rheolaeth dros yr holl ddail sy’n cwympo.
Cyn gynted ag y rhoddir gwybod, caiff bob un ei flaenoriaethu; hynny yw, bydd gyli mewn man isel, sydd pan fo’n cael ei flocio yn gallu peri llifogydd i’r eiddo, yn cael mwy o flaenoriaeth nac un ble mae’r dŵr yn rhedeg heibio un gyli a llifo i mewn i’r gyli nesaf a diflannu.