Ar-lein, Mae'n arbed amser
Rhoi gwybod am Broblemau Priffyrdd Cyffredinol
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn er mwyn rhoi gwybod am broblem briffyrdd cyffredinol.
Wrth roi gwybod am Broblemau Priffyrdd, rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch am y math o broblem a lleoliad y digwyddiad i’n helpu i ddelio gyda’r broblem.
Nodwch fod ffurflenni ar-lein ar gael i roi gwybod am y canlynol:
- Draen wedi blocio
- Ceudyllau
- Golau Traffig wedi ei ddifrodi
- Gordyfiant Llystyfiant, Coed, Gwrychoedd
- Gorchudd Twll Archwilio ar Goll neu wedi ei Ddifrodi
- Arwydd enw stryd ar Goll neu wedi ei Ddifrodi
- Arwydd Ffordd ar Goll neu wedi ei Ddifrodi
- Cais am Fin Graean neu am Raeanu eich ffordd
Os yw’r mater hwn yn cynnwys cerbydau sy’n peri rhwystr ar y briffordd, dylai eich mater gael ei gyfeirio yn gyntaf at Heddlu De Cymru drwy gysylltu â 101.