Ar-lein, Mae'n arbed amser

Clirio eira

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, fel Awdurdod Priffyrdd, yn gyfrifol  am raeanu rhagofalus a chlirio eira oddi ar briffyrdd a gaiff eu cynnal a chadw o fewn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae’r Adran Cynnal y Priffyrdd wedi llunio  ‘Cynllun Cynnal a Chadw ar gyfer y Gaeaf’ sy’n egluro sut y bydd yn cyflawni ei rwymedigaethau mewn cysylltiad â Deddf Priffyrdd 1980, yn enwedig Adrannau 41 a 150.

Nod yr Adrannau, i’r graddau y bydd hynny’n rhesymol ymarferol, yw cynnal neu ailsefydlu llif traffig diogel a dirwystr ar bob ffordd, cyn gynted ag y bo modd, yn ystod cyfnodau o dywydd garw, ac i sicrhau na fydd eira na rhew yn atal teithio diogel ar hyd y briffordd.

O dan amgylchiadau rhewllyd, rhoddir blaenoriaeth i ffyrdd at ysbytai, gorsafoedd tân a chanolfannau argyfwng, wedi’u dilyn gan ffyrdd A a B, ffyrdd C a fllwybray bysus; dilynir y rhain gan ffyrdd trwy ardaloedd adeiledig a lonydd at ffermydd anghysbell. Ymdrinir ag unrhyw ffyrdd eraill yn olaf.

Mae’r ddogfen hon yn egluro’n llawn beth yw nodau’r Adran a’r ddeddfwriaeth sy’n ei llywodraethu. Mae’r Cynllun yn cynnwys gwybodaeth werthfawr am y canlynol:

  • Rhagolygon y tywydd a sut i ddehongli’r wybodaeth
  • Cynllunio ar gyfer argyfyngau
  • Amseroedd Ymateb
  • Graeanu Rhagofalus (yn cynnwys llwybrau y cytunwyd arnynt) a Chlirio Eira
  • Lleoliad Biniau Halen
  • Trin a chael gwared ar eira o lwybrau troed (yn cynnwys rhestrau blaenoriaethau)

Cysylltwch â Ni