Ar-lein, Mae'n arbed amser

Rhoi gwybod am oleuadau’r stryd

Argyfyngau goleuo stryd

Os yw’r golau’n dangos un o’r namau canlynol ffoniwch 01685 725000 yn ystod yr oriau 8:30am - 5:00pm Llun – Gwener neu 08.30am tan 04:30pm ddyddiau Gwener neu 01685 385231 gyda’r nos a phenwythnosau

  • gwifrau noeth
  • casyn golau wedi ei ddifrodi

Am unrhyw beth nad yw’n argyfwng, defnyddiwch y ddolen isod.

Mae gan yr Awdurdod ei hadran Goleuadau Stryd sy’n gwneud holl yr holl waith cynnal a chadw ar Rwydwaith Goleuadau’r Stryd. Mae ceblau uchel yn darparu peth o oleuadau’r Awdurdod a gall y rhain fod yn gyfrifoldeb y Cwmni Dosbarthu Trydan Lleol. Gallant gymryd mwy o amser i’w trwsio ond nodwch y broblem i ni, yn gyntaf.

Nodwch fod yr awdurdod yn ymdrin â goleuadau’r stryd yn unig. Mae nam ar oleuadau sy’n gysylltiedig ag eiddo yn gyfrifoldeb i berchennog yr eiddo. Os ydych yn byw mewn eiddo sy’n berchen i gymdeithas tai, bydd angen i chi gysylltu ag adran cynnal a chadw’r gymdeithas tai.

NODER: nid cyfrifoldeb yr awdurdod yw cynnal a chadw cefnffyrdd yr A470, A4060 na’r A465 (Ffordd Blaenau’r Cymoedd) na’r M4. Cyfrifoldeb Asiant Cefnffyrdd De Cymru ydyn nhw a dylai pob problem gael ei hadrodd yn ôl iddyn nhw’n uniongyrchol drwy ffonio  0300 123 1213

Oeddech chi’n chwilio am?