Ar-lein, Mae'n arbed amser
Hysbysu am arwydd traffig sy’n niweidiol neu sydd ar goll
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn er mwyn hysbysu am niwed i arwydd traffig neu am arwydd traffig sydd ar goll.
Rhaid i’r holl arwyddion traffig a ddarperir ar y briffordd gydsynio â Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2002. Rhaid i arwyddion fod yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg uwch ben y Saesneg. Caiff arwyddion traffig eu darparu a’u cynnal a chadw ar briffyrdd mabwysiedig ledled y Fwrdeistref Sirol er mwyn rhoi gwybodaeth i’r defnyddiwr gwasanaeth. Prif grwpiau’r arwyddion yw:
- Arwyddion rhybuddio, triongl gan fwyaf
- Arwyddion rheoli e.e. cylchoedd coch
- Arwyddion cyfeirio, petryal gan fwyaf