Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ffordd Caedraw, Merthyr Tudful gorchymyn 2023

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL MERTHYR TUDFUL FFORDD CAEDRAW, MERTHYR TUDFUL
GORCHYMYN (AMRYWIAD) (DIRYMU) (GWAHARDDIAD AROS AR UNRHYW ADEG) (GWAHARDDIAD LLWYTHO NEU DDADLWYTHO AR UNRHYW ADEG) (GWAHARDDIAD STOPIO AR GLIRFFYRDD AR UNRHYW ADEG) (PARCIO I’R ANABL) (GWAHARDDIAD AROS AR UNRHYW ADEG AG EITHRIO I DACSIS) 2023

HYSBYSIR fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ymarfer ei bwerau o dan Adrannau 1(1) a 2(1) i (3) o Ddeddf
Rheoleiddio Traffig 1984 (“y Ddeddf”), a phob pwer galluogol arall, yn dilyn ymgynghoriad â Phennaeth yr Heddlu, yn unol
â Rhan III o Atodlen 9 y Ddeddf yn cynnig gwneud y Gorchymyn isod. Mae’r effaith gyffredinol yn cael ei disgrifio, isod. Bydd
effaith y Gorchymyn fel y ganlyn:

1. Ni fydd yr un person yn cael peri i gerbyd aros, ar unrhyw adeg ar hyd ac ar ochr y ffordd a fanylir yn Atodlen 1.
2. Ni fydd yr un person yn cael peri i unrhyw gerbyd lwytho na dadlwytho, ar unrhyw adeg ar hyd ac ar ochr y ffordd a fanylir yn Atodlen 2.
3. Ni fydd yr un person yn cael peri i unrhyw gerbyd stopio na pharhau i stopio ar unrhyw adeg ar hyd ac ar ochr y ffordd a fanylir yn Atodlen 3.
4. Ni fydd yr un person yn cael peri i unrhyw gerbyd aros ar unrhyw adeg ar hyd nac ar ochr y ffordd a fanylir yn Atodlen 4 y Gorchymyn hwn. Caniateir i Bobl Anabl sydd yn dangos y bathodyn anabl perthnasol ar eu cerbydau i aros am 20 munud ond ni ddylid dychwelyd oddi fewn i 1 awr.
5. Ni fydd yr un person yn cael peri i unrhyw gerbyd aros ar unrhyw adeg, ag eithrio tacsis am 20 munud ond ni chaniateir dychwelyd oddi fewn i 1 awr ar hyd ac ar ochrau’r ffyrdd y dynodir yn Atodlen 5.
6. Amrywio’r Gorchmynion y manylir arnynt yn Atodlen 6.
7. Dirymu’r Gorchmynion y manylir arnynt yn Atodlen 7.
8. Nid oes dim yn Erthyglau 1, 2, 4 a 5 yn eu gwneud yn anghyfreithlon i gerbydau’r gwasanaethau brys i aros ar hyd ac ar ochrau’r ffyrdd y dynodir ‘yn y lle hwnnw’. Caniateir i gerbydau aros ar gyfer bwriadau adeiladu a gwaith ffordd, ar gyfer cynnal a chadw, gwelliant, ailstrwythuro, archwilio ac arolygu hyd ac ochrau’r ffyrdd ac ar gyfer cynnal a chadw cerbydau hanfodol. Caniateir i gerbydau aros ar gyfer mynd i mewn ac allan ohonynt, ar gyfer priodasau, angladdau ac ar gyfer pecynnau’r post yng ngherbydau Gwasanaeth Swyddfa’r Post.
9. Nid oes dim yn Erthyglau 1, 4 a 5 yn eu gwneud yn anghyfreithlon i gerbydau aros ar hyd ac ar ochrau’r ffyrdd a ddynodir ‘yn y lle hwnnw’ ar gyfer bwriadau llwytho a dadlwytho.
10. Nid oes dim yn Erthygl 1 yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gerbydau pobl anabl sydd yn arddangos y bathodyn anabl perthnasol i aros am hyd at dair awr (gwaherddir dychwelyd oddi fewn i un awr) ar hyd ac ar ochrau’r ffyrdd y dynodir ‘yn y lle hwnnw’.
11. Nid oes dim yn Erthygl 3 yn berthnasol:
 (i) i ddim sydd yn cael ei wneud â chaniatâd neu â chyfarwyddyd Swyddog yr Heddlu mewn Iwnifform.
 (ii) i gerbyd sydd yn cael ei ddefnyddio are gyfer bwriadau ambiwlans, tân neu’r heddlu ac sydd yn gysylltiedig ag argyfwng neu sydd ar swyddogaeth neu sydd ar gyfer bwriadau’r heddlu petai’r ddarpariaeth yn debygol o oedi defnydd y cerbyd ar gyfer y bwriad y mae’n cael ei ddefnyddio ar yr achlysur hwnnw.
12. Nid oes dim yn Erthygl 3 sydd yn ei wneud yn anghyfreithlon i achosi neu ganiatáu cerbyd rhag aros ar ffordd sydd wedi ei chyfyngu am amser sydd yn galluogi’r cerbyd
a) os na all gael ei ddefnyddio’n gyfleus ar gyfer bwriadau ar ffordd arall sydd yn gysylltiedig â
 i) chasglu unrhyw rwystr i draffig
 ii) cynnal a chadw, ailstrwythuro hyd y ffordd
 iii) gosod, codi, addasu neu atgyweirio gerllaw neu ar hyd unrhyw ffordd sydd â charthffos, prif bibell neu offer ar gyfer cyflenwi nwy, dŵr, trydan neu offer delegyfathrebu fel y diffinnir yn atodlen 2, Ddeddf Telegyfathrebiadau 1984
b) os na all gael ei ddefnyddio’n gyfleus ar ffordd arall i wasanaethu’r awdurdod lleol neu awdurdod dŵr wrth wneud ei swyddogaet statudol neu gyfrifoldebau
c) i’w ddefnyddio ar gyfer y dibenion a awdurdodwyd gan ac a ddisgrifiwyd ar gerdyn caniatâd gan yr awdurdod sydd yn cael ei arddangos yn glir drwy ffenest flaen y cerbyd.
13. Er mwyn osgoi amheuaeth, ni chaniateir i gerbyd person anabl aros neu stopio ar unrhyw hyd o’r ffordd y cyfeirir ato yn erthygl 3.
14. Gellir gweld dogfennau sydd yn manylu ar y Gorchymyn ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful drwy ddilyn y ddolen:
https://www.merthyr.gov.uk/resident/parking-roads-and-travel/traffic-management/public-notices.
15. Dylid cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i’r gorchymyn ac ar ba sail y maent yn cael eu gwneud, yn ysgrifenedig i’r sawl sydd wedi ei nodi, isod erbyn 31 Mawrth 2023.

ATODLEN 1
GWAHARDDIAD AROS AR UNRHYW ADEG

Ffordd Caedraw, Merthyr Tudful
(i) Yr ochr ddwyreiniol o’r gyffordd â Stryd yr Alarch i bwynt sydd 8 metr i’r gogledd o ochr ogleddol y fynedfa gyferbyn â Portal House
(ii) Yr ochr ddwyreiniol o bwynt sydd 11 metr i’r de o’r ochr ddeheuol, gyferbyn â’r fynedfa i Gwrt Joseph Parry, am bellter o 44 metr i gyfeiriad deheuol.
(iii) Yr ochr orllewinol o’r gyffordd â Stryd yr Alarch am bellter o 240 metr i gyfeiriad deheuol.
(iv) Yr ochr ogleddol o Ffordd Caedraw, gyferbyn â Chwrt Santes Tudful, o ochr ddwyreiniol Ffordd Caedraw am bellter o 49 metr mewn cyfeiriad gogledd-ddwyreiniol tuag at Gwrt Morlais ac yna am bellter o 24 metr i gyfeiriad deheuol ar hyd Cwrt Morlais.
(v) Yr ochr orllewinol o’r ffordd, gyferbyn â Chwrt Morlais o bwynt sydd 4 metr i’r gogledd o ochr ddeheuol Cwrt Morlais o bwynt sydd 4 metr i’r gogledd o ochr ddeheuol Cwrt Morlais am bellter o 19 metr i gyfeiriad y gogledd.

ATODLEN 2
GWAHARDDIAD LLWYTHO A DADLWYTHO AR UNRHYW ADEG

Ffordd Caedraw, Merthyr Tudful
(i) Yr ochr ddwyreiniol o’r gyffordd â Stryd yr Alarch i bwynt sydd 8 metr i’r gogledd o ochr ogleddol y fynedfa gyferbyn â Portal House
(ii) Yr ochr ddwyreiniol o bwynt 11 metr i’r de o ochr ddeheuol y fynedfa gyferbyn â Chwrt Joseph Parry Court am bellter o 44 metr i gyfeiriad deheuol.
(iii) Yr ochr orllewinol o’r gyffordd â Stryd yr Alarch am bellter o 240 metr i gyfeiriad deheuol.
(iv) Yr ochr ogleddol o Ffordd Caedraw, cyferbyn â Chwrt Santes Tudful o ochr ddwyreiniol Fffordd Caedraw am bellter o 49 metr i gyfeiriad gogledd-ddwyreiniol tuag at Gwrt Morlais ac yna am bellter o 24 metr i gyferiaid deheuol, gerllaw Cwrt Morlais.
(v) Yr ochr orllewinol o’r ffordd gyferbyn â Chwrt Morlais o bwynt 4 metr i’r gogledd o ochr ddeheuol Cwrt Morlais am bellter o 19 metr i
gyfeiriad gogleddol.

ATODLEN 3
GWAHARDDIAD STOPIO AR GLIRFFYRDD AR UNRHYW ADEG

Ffordd Caedraw, Merthyr Tudful
(i) Yr ochr ddwyreiniol o bwynt sydd 8 metr i’r gogledd o ochr ogleddol y fynedfa gyferbyn â Portal House i gyfeiriad deheuol i bwynt sydd gyferbyn â ochr ogleddol Attlee House.
(ii) Yr ochr ddwyreiniol o bwynt sydd 12 metr i’r gogledd o ochr ogleddol y fynedfa gyferbyn â Buckland House, i gyfeiriad deheuol i ochr ddeheuol y fynedfa gyferbyn â Glyndwr House.

ATODLEN 4
PARCIO I’R ANABL YN UNIG AM 20 MUNUD, DIM DYCHWELYD ODDI FEWN I 1 AWR

Ffordd Caedraw, Merthyr Tudful
Yr ochr ddwyreiniol o’r fynedfa gyferbyn â Glyndwr House i gyfeiriad deheuol i bwynt sydd 6 metr i’r gogledd o ochr ogleddol y fynedfa gyferbyn â Chwrt Joseph Parry.

ATODLEN 5
GWAHARDDIAD AROS AR UNRHYW ADEG AG EITHRIO I DACSIS AM 20 MUNUD, DIM DYCHWELYD ODDI FEWN I 1 AWR

Ffordd Caedraw, Merthyr Tudful
Yr ochr ddwyreiniol o bwnynt sydd 6 metr i’r gogledd o ochr ogleddol y fynedfa gyferbyn â Chwrt Joseph Parry mewn cyfeiriad deheuol i bwynt sydd 11 metr i’r de o ochr ddeheuol y fynedfa sydd gyferbyn â Chwrt Joseph Parry.

ATODLEN 6
AMRYWIAD I ORCHMYNION CYFREDOL

Amrywio “Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref sirol Merthyr Tudful Ffyrdd Amrywiol oddi fewn i Fwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (Amrywiad) (Dirymiad) 2011” drwy ddileu atodlen 1 eitem 5 (i), (ii) a (iii).

ATODLEN 7
DIRYMIAD GORCHYMYNION CYFREDOL

1. Dirymu darpariaethau “Gorchymyn (Dirymu) Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (Ffordd Caedraw, Merthyr Tudful) (Gwaharddiad Aros ar Unrhyw Adeg) (Gwaharddiad Aros ar Unrhyw Adeg ag Eithrio Amser Cyfyngedig i Fysiau) (Gwaharddiad Aros ar Unrhyw Adeg ag Eithrio Amser Cyfyngedig i Dacsis) 2001.”
2. Dirymu darpariaethau Gorchymyn “Cyngor Sir Morgannwg Ganol (Ffordd Caedraw, Merthyr Tudful) (Cyfyngiad a Gwaharddiad Aros) 1978.”

Dyddiedig 9 Mawrth 2023

Carys Kennedy, Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Canolfan Dinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful CF47 8AN.

Cysylltwch â Ni