Ar-lein, Mae'n arbed amser

Arwyddion Twristiaid

Cais am Arwydd Cyfeirio Twristiaid

Am unrhyw geisiadau am Arwyddion Cyfeirio Twristiaid, defnyddiwch ein ffurflen gais ar-lein isod. 

Mae’r arwyddion o’r math ‘gwyn ar frown’ wedi cael eu defnyddio ers sawl blwyddyn bellach ac yn cael eu cydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Diben yr arwyddion hyn yw cyfeirio (yn hytrach na denu) ymwelwyr.

Fel arfer, mae perchennog y sefydliad yn gwneud cais am arwyddion a’r Cyngor yn eu darparu ar yr amod bod meini prawf polisi yn cael eu bodloni. Mae’n ofynnol cael caniatâd Llywodraeth Cymru os yw’r cais am arwyddion ar Gefnffordd. Gellir trafod cymhwysedd am arwyddion â’r Adran Rheoli Traffig a fydd yn cyflwyno ffurflen gais ar ofyn. Os caiff yr arwyddion eu cymeradwyo gan y Cyngor yna bydd yr ymgeisydd yn ariannu cynllunio, cynhyrchu a gosod unrhyw arwyddion a’u cynnal a’u cadw wedi hynny. Bydd ffi asesu yn cyd-fynd â chais ffurfiol i dalu costau’r asesu gan yr Awdurdod. Ni ellir ad-dalu’r taliad hwn.

Edrychwch ar ein dogfen Meini Prawf Arwyddion Twristiaeth am ragor o wybodaeth.

 

 

Cysylltwch â Ni