Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cyfyngiadau pwysau

Cyflwynir cyfyngiadau pwysau gan Orchymyn Rheoleiddio Traffig dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffordd 1984.

Mae’r Cyngor wedi cyflwyno amryw gyfyngiadau pwysau i atal lorïau rhag defnyddio ffyrdd anaddas gan gynnwys pontydd gwan.

Darperir arwyddion cyfyngiadau pwysau a rhaid iddyn nhw gydymffurfio â’r Rheoliadau Arwyddion Traffig a Chyfarwyddiadau Cyffredinol 2002.

Cyfrifoldeb Heddlu De Cymru yw gorfodi’r cyfyngiadau hyn ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Am wybodaeth am orfodi cysylltwch â Heddlu De Cymru ar 01685 722541.

Cais am Derfyn Pwysau

Am unrhyw geisiadau am Derfyn Pwysau, defnyddiwch ein ffurflen gais ar-lein.

Cysylltwch â Ni