Ar-lein, Mae'n arbed amser
Archaeoleg Gwybodaeth Leol
Mae gan Ferthyr Tudful nifer o safleoedd o ddiddordeb archeolegol a daearegol.
Mae nifer o wefannau ar ochr dde'r dudalen hon sy'n rhoi gwybodaeth fanylach ar ddaeareg yr ardal a wnaeth Merthyr Tudful mor arbennig, a'r archeoleg y gellir dod o hyd iddo o ganlyniad i safle daearegol/daearyddol unigryw Merthyr.
Mae rhai o'r safleoedd mwyaf nodedig i'r gogledd o ardal Merthyr Tudful, ac ar Gomin Gelligaer, sy'n cynnwys miloedd o flynyddoedd o hanes dynol.
Mae Merthyr Tudful yn fwyaf enwog am ei diwydiant haearn, ac mae llawer o olion yr etifeddiaeth a'r gorffennol cyfoethog hwnnw'n dal yma. Am ragor o wybodaeth am lwybrau lleol a hanes Merthyr Tudful, ewch i wefan Visit Merthyr Tydfil neu i'n tudalennau Hanes.
Mae cymaint i'w ddarganfod am orffennol Merthyr, a'r ffordd orau i wneud hynny yw mynd allan a gweld gyda'ch llygaid eich hunain!
Mae adeiladau, pontydd a llwybrau gwych yn dal i sefyll yma sy'n dangos bod gan Ferthyr lawer i fod yn falch ohono ac i'w gynnig!