Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gwneud cais am gymeradwyo rheoliadau adeiladu

Canllawiau Ffurflen Gais

Manylion Cyflwyno

Dylai ceisiadau am waith heb ei awdurdodi ddefnyddio'r dewis 'Ceisiadau Rheoleiddio', gall cynigion eraill ddewis naill a'r dewis 'Cynlluniau Llawn' neu 'Rhybudd Adeiladu, fodd bynnag, ni ellir defnyddio'r Rhybudd Adeiladu:-

a.) ble mae'r adeilad yn un 'defnydd dynodedig' dan Ddeddf Rhagofalon Tân 1971 sy'n cynnwys swyddfeydd, siopau, ffatrïoedd a gwestai a/neu yn fan gwaith sydd dan amodau Rheoliadau Rhagofalon Tân (yn y gwaith) 1997.

Dylid cyflwyno'r manylion canlynol gydag un copi cyflawn o'r ffurflen gais a'r ffioedd priodol.

1. Ceisiadau Cynllunio Llawn

Manyleb adeiladol llawn a manylion a chopïau dyblyg o'r cynlluniau.  Bydd angen dau gopi ychwanegol o'r cynlluniau ar gyfer gwaith mewn perthynas ag adeiladau defnydd dynodedig.

2. Ceisiadau Rhybudd Adeiladu

Yn achos Rhybudd Adeiladau, gofynnir am gynllun safle a manylion eraill yn unol â Rheoliad 13.  Efallai y gofynnir am wybodaeth ychwanegol.

3. Ceisiadau Rheoleiddio

Yn unol â Rheoliadau Adeiladu 21 (3), fe all y Cyngor ofyn i'r ymgeisydd gymryd camau rhesymol, yn cynnwys cynnig y gwaith anawdurdodedig am arolwg, gwneud profion a chymryd samplau fel yr ystyria'r awdurdod yn briodol i ganfod pa waith, os o gwbl, sydd ei angen i sicrhau cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol.

4. Deddf Wal Gydrannol 1996

Fe allai gwaith mewn perthynas â waliau cydrannol olygu gweithrediadau dan Ddeddf Wal Gydrannol 1996, fe ddylech ddeall y gofynion hyn cyn ymgymryd â chynigion o'r fath. Llyfryn Y Wal Gydrannol.

5. Tystysgrifau Cwblhau

Ni fydd Tystysgrifau Cwblhau yn cael eu cyhoeddi hyd nes y bydd tystysgrif diogelwch trydanol wedi ei dderbyn a'r ffi Rheoliadau Adeiladu perthnasol wedi ei thalu'n llawn.

6.  Draenio

Yn amodol ar ddarpariaethau penodol dan Ddeddf Diwydiannau Dŵr 1991, mae gan berchnogion a deiliaid eiddo hawl i gysylltu eu draeniau carthffos a dŵr wyneb preifat i'r carthffosydd cyhoeddus, ble bo hynny ar gael.  Mae trefniadau arbennig mewn grym ar gyfer elifion masnach.  Rhaid i'r sawl sydd yn dymuno i'r cysylltiad hwn ddigwydd roi dim llai na 21 diwrnod o rybudd i'r Awdurdod.

7. Rheoliadau

Canllaw cyffredinol yn unig yw'r nodiadau hyn; Ceir manylion llaw ar gyflwyno'r ceisiadau yn Rheoliad 13, 14 a 21 o Reoliadau Adeiladu 2000 ac, mewn perthynas â ffioedd Rheoliadau Adeiladu gweler Rheoliadau Adeiladu (Ffioedd Awdurdod Lleol) 1998.


PWYSIG: RHAID CYFLWYNO CYNLLUNIAU NEU RYBUDDION I'R CYNGOR DAN Y RhEOLIADAU ADEILADU AC UNRHYW GANIATÂD CYNLLUNIO PERTHNASOL A GAFWYD (Os nad ydych wedi gwneud hyn eisoes fe'ch cynghorir i gysylltu â Rheolaeth Datblygu: (01685) 726280 / 726283, CYN DECHRAU AR UNRHYW WAITH AR Y SAFLE.  

Ffurflen Gais Rheoli Adeiladu 

Ffioedd

Rhaid i'r Cyngor godi ffi am wasanaethau Rheoli Adeiladu, mae'r ffioedd yn seiliedig ar faint a math y gwaith sydd i'w gyflawni. 

Dan y drefn Cynlluniau Llawn, rhaid talu'r rhan gyntaf o'r ffi pan gaiff y dogfennau cais eu cyflwyno i'r Cyngor, a gweddill y ffi pan fydd gwaith yn dechrau ar y safle.

Pan ddefnyddir Rhybudd Adeiladu, rhaid talu'r ffi Rhybudd Adeiladu pan gaiff y cais ei gyflwyno, mae'r ffi yr un fath pa bynnag ddewis a ddewisir.  Nid oes angen talu ffi arall os caiff y cais ei ailgyflwyno wedi iddo gael ei wrthod neu ble y gwneir adolygiadau mân.  Mae'r ffi sy'n daladwy am wasanaethau Rheoli Adeiladu yn cynnwys yr holl arolygon gan Swyddog Rheoli Adeiladu, waeth sawl ymweliad a wnaed â'r datblygiad.

Mae'r nodiadau canllaw ar ffioedd isod:

Nodyn Newydd Canllaw ar Ffïoedd

Tabl A. - Anheddau domestig hyd at 300 metr sgwâr a fflatiau hyd at 3 llawr

Tabl B. - Costau am adeiladau bach penodol, newidiadau ac estyniadau i anheddau

Tabl C. - Gwaith arall

Canllaw i Godi Estyniad i'ch cartref

Canllaw i Godi Estyniad i'ch cartref

Cwestiynau Cyffredin a Gwybodaeth Ychwanegol

Cliciwch ar y ddolen i weld y Cwestiynau Cyffredin 

Dolenni Defnyddiol

Defnyddiwch y dolenni canlynol i gael gwybodaeth ar amryw o bynciau o osodiadau trydanol i beryglon o lifogydd.

Mae'r dolenni yn yr adran hon yn cyfeirio at wefannau allanol sydd y tu hwnt i reolaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.  Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw ddefnydd a gyhoeddir y tu hwnt i barth merthyr.gov.uk.

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?