Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gorfodaeth Ddymchwel

Awdurdod Lleol dan Adran 80 o Ddeddf Adeiladau 1984, sydd fel arfer o leiaf chwe wythnos cyn i'r gwaith ddechrau.

Nid oes angen rhybudd ar gyfer adeilad sydd ddim mwy na 1,750 troedfedd giwbig mewn cyfaint trwy fesuriad allanol, er bod angen ystyried gofynion Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, gan y gall fod yn berthnasol i ddymchwel a datblygiad.

I ddymchwel adeiladau mwy, rhaid darparu cynllun lleoliad o'r adeilad a'r strydoedd cyfagos ynghyd a datganiad o ddull, ac asesiad risg.

Mae angen i chi hefyd hysbysu'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, trwy gyfrwng hysbysiad F10 o'r dymchweliad arfaethedig, a bydd angen copi ohono arnom ni hefyd.

Dylid ystyried Deddf Wal Gydrannol 1996.  Mae'r Ddeddf hon yn nodi hawliau a chyfrifoldebau perchnogion cydffiniol yn ymwneud â strwythurau o'r fath.  Yn y bôn mae'n ymdrin â chyfraith breifat rhwng y perchnogion dan sylw ac nid yw'n cael ei orfodi gan yr Awdurdod Lleol.

Dylid hefyd hysbysu ymgymerwyr statudol er mwyn iddynt drefnu i'w gwasanaethau gael eu selio'n iawn.


Gall peidio â hysbysu olygu dirwy o ddim mwy na £2,000 ar y raddfa bresennol.

Cysylltwch â Ni