Ar-lein, Mae'n arbed amser
Bioamrywiaeth ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
Cyflwynodd Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ddyletswydd gwydnwch ecosystemau a bioamrywiaeth (dyletswydd S6) ar awdurdodau cyhoeddus wrth arfer eu swyddogaeth yng Nghymru.
Mae hyn yn golygu bod rhaid i awdurdodau cyhoeddus ‘gynnal ac ehangu bioamrywiaeth’ ble’n bosib ac wrth wneud; geisio hyrwyddo ‘gwydnwch ecosystemau’.
Bioamrywiaeth (‘amrywiaeth fiolegol’)
‘Yr amrywiaeth o anifeiliaid a phlanhigion yn y byd neu gynefin penodol.’
Ecosystem
‘Uned swyddogaethol o organebau byw (planhigion/anifeiliaid/micro organebau) o fewn amgylchedd (aer/dwr/mwynau/pridd) a’r holl amrywiaeth o ryngweithio cymhleth sy’n digwydd rhyngddynt.’
Gwydnwch ecosystemau
‘Mae gan ecosystem wydn y gallu i ymateb i darfu trwy adfer yn gyflym a gwrthsefyll niwed.’
Adrodd
Bob tair blynedd, dan Adran 6(7) Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, rhaid i bob awdurdod cyhoeddus gyhoeddi adroddiad ar yr hyn maent wedi ei wneud i gydymffurfio gyda dyletswydd S6.
Roedd y dyddiad cau cyntaf cyn diwedd 2019:
- Mabwysiadwyd Cynllun Gweithredu Adfer Natur Merthyr Tudful gan GBSMT ym mis Ionawr 2020 (mae’r ddogfen hon yn nodi’r camau a gyflawnwyd gan y Cyngor mewn perthynas â Dyletswydd S6 rhwng 2016 a 2019).
Roedd yr ail ddyddiad cau cyn diwedd 2022:
- Mabwysiadwyd Adroddiad Dyletswydd Gwydnwch Ecosystemau a Bioamrywiaeth (S6) ym mis Ionawr 2023The Biodiversity and Resilience of Ecosystems (S6) Duty Report was approved by MTCBC in January 2023 (mae’r ddogfen hon yn nodi’r camau a gyflawnwyd gan y Cyngor mewn perthynas â Dyletswydd S6 rhwng 2019 a 2022).
Bioamrywiaeth ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Mae’r Adroddiad yn archwilio cyflwr y fioamrywiaeth ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac yn disgrifio, yn eang, yr amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau a welwyd.
Enghreifftiau o gynefinoedd a welir yn y Fwrdeistref Sirol yw:
- Coetir cynhenid
- ffridd
- rhostir
- gwlypdiroedd
- ardaloedd mwyn gwastraff sydd wedi ail dyfu yn naturiol
- ffosydd ac afonydd
Enghreifftiau o rywogaethau a ddiogelir a geir o fewn y Fwrdeistref Sirol yw:
- Dyfrgwn Ewropeaidd
- ystlumod
- madfall gribog
- llygod dwr
- pili pala brith y gors
- cerddinen y Darren fach
Mae’r Adroddiad yn cynnwys codi ymwybyddiaeth, addysgu, casglu data, Datblygiad cynaliadwy a chyswllt ecolegol.
Partneriaeth Bioamrywiaeth Merthyr Tudful
Ffurfiwyd Partneriaeth Bioamrywiaeth Merthyr Tudful i helpu gweithredu a chwrdd targedau'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol ( sydd bellach wedi ei ddisodli gan Gynllun Gweithredu Adfer Natur Merthyr Tudful- gweler uchod). Y brif weithred ar gyfer pob cynefin a rhywogaeth yw cynnal a chadw ac ymestyn a chadw a chynyddu'r rhywogaethau yn y fwrdeistref.
Mae’r bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, amrywiaeth o unigolion, grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr, y llywodraeth a sefydliadau eraill.
Os hoffech ymuno neu ddysgu mwy am Bartneriaeth Bioamrywiaeth Merthyr Tudful neu wybod mwy am Gynllun Gweithredu Adfer Natur Merthyr Tudful (2019-2024) cysylltwch gyda Swyddog Bioamrywiaeth Merthyr Tudful yma: Biodiversity Officer.