Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cefn Gwlad Cyngor a Gwybodaeth
Deddfwriaeth Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt
Er mwyn gwarchod natur a bywyd gwyllt mae sawl darn gwahanol o ddeddfwriaeth mewn bodolaeth.
Os ydych yn gwneud unrhyw fath o waith yn yr awyr agored mae'n bwysig eich bod yn gwybod am gyfraith bywyd gwyllt a chefn gwlad a sut y caiff ei dadansoddi er mwyn osgoi erlyniad, carchar neu ddirwy.
Y gred gyffredin gan lawer o bobl yw bod ganddynt rwydd hynt i wneud beth bynnag a fynnant gyda darn o dir yn eu meddiant, NID YW HYN YN WIR.
Gall rhywogaethau a chynefinoedd (planhigion, anifeiliaid neu ffwng a'r mathau o ardaloedd ble y ceir hyd iddynt) fod wedi eu gwarchod. Mae'n bwysig i fod yn ymwybodol o'r rhain er mwyn osgoi erlyniad a dirwyon. Nid yw peidio gwybod am ddeddfwriaeth yn esgus dros achosi difrod ac nid yw'n cael ei dderbyn fel esgus cyfreithiol.
Mae pedwar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) o bwysigrwydd cenedlaethol ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Gorwedd dau ohonynt yn Ardal Weinyddol Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; SoDdGA Darren Fach aSoDdGA Ogofau Nant Glais. Gorwedd y ddau arall o fewn Ardal Weinyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful:
- SoDdGA Taf Fechan (coetir)
- SoDdGA Cwm Glo a Glyndyrus (glaswelltir/ffwng/mosaig)
Mae coed unigol, grwpiau o goed a choetiroedd o fewn Bwrdeistref Sirol wedi eu gwarchod gan ORCHYMYN CADW COED. Mae'n bwysig hefyd gwirio faint o goed yr ydych yn eu torri a pha fath o bren yn ogystal â gwirio'n drwyadl am adar ac ystlumod sy'n nythu er mwyn sicrhau eich bod yn dilyn y ddeddf. Gall gwrychoedd hefyd fod yn warchodedig os ydynt yn cwrdd â'r meini prawf ar gyfer dosbarthiad gwrychoedd 'pwysig'.
Y brif ddeddfwriaeth sy'n ymwneud yn uniongyrchol gyda gwarchod bywyd gwyllt a chynefinoedd yw:
- Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd)
- Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990
- Deddf Gwarchod Moch Daear 1992
- Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaeth 2010
- Rheoliadau Gwrychoedd 1997
- Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000
- Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006
N.B. Mae deddfwriaeth yn cael ei diweddaru'n aml a gall fod yn benodol i wledydd unigol fel Cymru, felly mae'n bwysig sicrhau bod y ddeddfwriaeth fwyaf perthnasol a chyfredol yn cael ei defnyddio.