Ar-lein, Mae'n arbed amser
Arolygon Cefn Gwlad
Arolygon Bywyd Gwyllt, Lliniaru a Digolledu
Ceir llawer o wybodaeth am safleoedd a bywyd gwyllt gwarchodedig ond nid yw'n cynnwys pob maes ac efallai nad yw'n gyfredol. Yn y mwyafrif o achosion bydd angen darganfod mwy am beth sydd ar ddarn o dir, neu os yw'r tir yn warchodedig mewn rhyw ffordd, er mwyn sicrhau bod Deddfwriaeth yn cael ei dilyn; gweler Deddfwriaeth Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt uchod.
Argymhellir pawb i nodi unrhyw faterion posib yn ymwneud a darn o dir cyn gynted ag y bo modd; cyn prynu neu gyflwyno cynlluniau datblygu. Er enghraifft, mae dros 50 Safle o Bwys i Gadwraeth Natur yng Nghynllun Datblygu Lleol
Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful a nifer o safleoedd ble mae cofnodion hanesyddol o rywogaethau gwarchodedig.
Os rhagwelir effaith negyddol ar fywyd gwyllt bydd angen rhwystro'r effaith hwn. Ble ceir tystiolaeth na ellir rhwystro'r effaith hwn bydd angen ei leihau a bydd angen creu buddiannau eraill, gelwir hyn yn lliniaru a digolledu.
Efallai y bydd angen trwydded os credir y bydd rhai rhywogaethau gwarchodedig yn cael eu heffeithio. Ni ddylid cymryd yn ganiataol y bydd trwydded yn cael ei ganiatáu.
Bydd y Swyddog Cefn Gwlad yn gallu rhoi rhagor o gyngor a chefnogaeth ar y materion hyn.