Ar-lein, Mae'n arbed amser
Apeliadau Cynllunio
Anhapus gyda’ch penderfyniad?
Ymdrin ag Apeliadau gan Penderfyniadau Cynllunio a’r Amgylchedd Cymru yng Nghaerdydd.
Mae gan ymgeiswyr gawl statudol i apelio yn erbyn gwrthwynebiad caniatâd cynllunio, yr amodau sydd wedi eu hatodi i’r caniatâd a ystyrir i fod yn afresymol neu os yw’r Cyngor wedi methu â gwneud penderfyniad oddi fewn i’r cyfnod statudol o 8 wythnos ac na chytunwyd i estyniad oddi fewn i’r cyfnod hwnnw. Hefyd, gall unrhyw unigolyn sydd wedi derbyn Hysbysiad Gorfodi wneud apêl. Nid oes gan drydydd parti'r hawl i apelio yng Nghymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch y broses apêl, ewch i wefan Llywodraeth Cymru drwy glicio yma.