Ar-lein, Mae'n arbed amser

Archwilio CDLl Amnewid Merthyr Tudful

Sefyllfa Bresennol

Cyhoeddi Adroddiad yr Arolygydd

Cyflwynwyd Adroddiad yr Arolygydd ar Gynllun Datblygu Lleol Merthyr Tudful (CDLl) 2016 - 2031 i’r Cyngor a Llywodraeth Cymru ar 17 Rhagfyr 2019.

Daeth yr Arolygydd i'r casgliad, yn amodol ar y newidiadau argymelledig a nodwyd yn Atodiad yr Adroddiad, fod y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid yn gadarn. Gellir gweld yr Adroddiad, y llythyr eglurhaol a gwybodaeth bellach am y dyddiad mabwysiadu ar wefan y Cyngor yn www.merthyr.gov.uk/CDLlAmnewid.

Mae cyhoeddi Adroddiad yr Arolygydd yn cloi'r broses archwilio. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch Adroddiad yr Arolygydd neu'r CDLl Amnewid i Dîm Polisi Cynllunio'r Cyngor.

-----------------------------------------------------------------------------------------------

30 Rhagfyr 2019: Bellach, mae Adroddiad yr Arolygydd wedi dod i law’r Cyngor ac fe’i cyhoeddir fel dogfen archwilio ED062. 

ED062  Adroddiad yr Arolygydd CDLl Merthyr (17.12.19)

-------------------------------------------------------------------------------------------------

31 Hydref 2019: Mae 'r cyfathrebiad canlynol rhwng yr arolygydd a'r Cyngor ynghylch sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar y MACs yn cael eu cyhoeddi o dan ED061.

ED061 Llythyr yr arolygydd at y Cyngor ynghylch sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar y MACs (28.1019)  

------------------------------------------------------------------------------------------

24 Hydref 2019: Mae Cofrestr y Sylwadau a Wnaethpwyd i'r Materion yn sgil Newidiadau arfaethedig (MysN)  wedi cael ei chyhoeddi fel dogfen archwilio ED060, ac wedi ei hanfon at yr Arolygyd iddo ef roi ystyriaeth iddi.

-----------------------------------------------------------------------------------------------

Newidiadau i’r Materion sy’n Codi (MAC) – Ymgynghoriad Cyhoeddus – Dydd Llun 9 Medi tan 21 Hydref 2019

Cyfeiriwch at y Cynllun Datblygu Lleol Amnedwid Cyntaf 2016-2013 am wybodaeth bellach a sut i gyflwyno sylwadau. 

ED055 - Amserlen y Newidiadau i'r Materion sy'n Codi i'r Cynllun Datblygu Amnewid (Medi 2019)

ED056 - Datganiad Ysgrifenedig y Cynllun Adnau Amnewid fel y'i diwygiwyd gan y Newidiadau i'r Materion sy'n Codi (Medi 2019)

ED057 - Adendwm Adroddiad y Gwerthusiad Cynaliadwyedd (Medi 2019)

ED058 - Adendwm Adroddiad Asesiad Priodol Asesiad Rheoleiddio Cynefinoedd (Medi 2019) 

ED059 - Gellir gweld Hysbysiad o’r Ymgynghoriad Cyhoeddus i’r Newidiadau i’r Materion sy’n Codi

Dylai partïon sydd â diddordeb wirio'r adran Dogfennau Archwilio yn y llyfrgell archwilio’n rheolaidd am ohebiaeth a dogfennaeth ddiweddar a gyflwynwyd i’r archwiliad.

Arolygydd Cynllunio

Cyflwynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBSMT) ‘Gynllun Adnau’ ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Amnewid i Weinidogion Llywodraeth Cymru iddynt ei archwilio’n annibynnol ar 21 Ionawr 2019, ac yn dilyn hynny, ganlyniadau Newidiadau Ffocws yr ymgynghoriad cyhoeddus ar 18 Mawrth 2019. Yn dilyn derbyniad ffurfiol y CDLl a gyflwynwyd ar 20 Mawrth 2019, mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi apwyntio Mr Paul Selby BEng (Anrh) MSc MRTPI i weinyddu’r archwiliad annibynnol er mwyn asesu cadernid y CDLl. Wedi i’r Archwiliad gael ei gwblhau, bydd yr Arolygydd yn cyhoeddi Adroddiad i’r Cyngor yn rhoi argymhellion gweithredu a fydd yn orfodol i’r Cyngor.

Swyddog Rhaglen

Bydd y Broses Archwilio’n cael ei gweinyddu gan y Swyddog Rhaglen, Mrs Tracey Smith sydd yn annibynnol i’r Cyngor ac a fydd yn gweithio o dan gyfarwyddyd yr Arolygydd. Dylai pob gohebiaeth / ymholiadau sy’n ymwneud â’r Archwiliad (gan gynnwys gohebiaeth i’r Arolygydd) gael eu cyfeirio at y swyddog Rhaglen gan ddefnyddio’r manylion cyswllt canlynol:  

Y Broses archwilio

Bydd Sesiynau Ffurfiol Gwrandawiad yr Archwiliad yn ystyried cynnwys y CDLl ac yn ymwneud â’r sylwadau ar y Cynllun Adnau a’r Newidiadau Ffocws sydd eisoes wedi cael eu gwneud yn ystod proses yr ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd dyddiadau penodol amserlen y gwrandawiadau llawn ar gael i’w gweld yn nogfen y rhaglen, faes o law ond maent yn debygol o gael eu cynnal yn ystod Gwanwyn/Haf 2019.  

Gall yr Arolygydd alw cyfarfod cyn y gwrandawiad er mwyn trafod materion gweithdrefnol neu gyfarfod archwiliol yn fuan wedi’r cyflwyniad os oes ganddo faterion sydd angen eu harchwilio ymhellach cyn iddo ddechrau’r archwiliad.

Wedi i’r Gwrandawiadau gael eu cau yn ffurfiol, bydd yr Archwiliad yn parhau yn agored hyd nes bydd Adroddiad yr Arolygydd yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor. Fodd bynnag, ni fydd sylwadau pellach na thystiolaeth yn cael eu derbyn wedi sesiynau’r gwrandawiadau oni bydd yr arolygydd yn gwneud cais penodol i wneud hynny.

Llyfrgell Archwilio

  • Gellir gweld Dogfennau Archwilio yma 
  • Gellir gweld Dogfennau Cyflwyno’r Cyngor yma

Amserlen archwilio:

  • Dyddiad Cyflwyno’r CDLl: 21 Ionawr 2019 wedi ei ddilyn gan sylwadau Newidiadau Ffocws ar 18 Mawrth 2019
  • Dechrau ar Wrandawiadau: 25 Mehefin 2019
  • Adroddiad yr Arolygydd: 17 Rhagfyr 2019