Ar-lein, Mae'n arbed amser

Archwiliad CDLl – Sesiynau Gwrandawiad

Bydd y sesiynau gwrandawiad yn dechrau ddydd Mawrth 25 Mehefin 2019 am 10:00. Bydd amseroedd dechrau sesiynau’r gwrandawiad yn amrywio felly gwiriwch y rhaglen yn ofalus. Caiff pob sesiwn gwrandawiad ei gynnal yng Nghanolfan Orbit, Parc Busnes Rhydycar, Merthyr Tudful, CF48 1DL oni nodir fel arall.

Amserlen y gwrandawiadau a chyfranogi mewn sesiynau

Gellir gweld/lawrlwytho pdf o’r Rhaglen Wrandawiadau Ddrafft [ED003] yn amlinellu’r amserlen, y pynciau mae’r Arolygydd am eu harchwilio a’r cyfranogwyr a wahoddwyd, o wefan Dogfennau’r Archwiliad. Noder fod y Rhaglen Wrandawiadau Drafft a’r amserlen ganlynol yn amodol ar newid.

Bydd y dolenni canlynol yn darparu gwybodaeth am bob sesiwn gwrandawiad gan gynnwys nodyn o gyfranogwyr a wahoddwyd, agendâu materion a phroblemau, unrhyw ddatganiadau pellach oddi wrth y Cyngor  a chynrychiolwyr a baratowyd fel ymateb i Faterion a Phroblemau’r Arolygydd ar gyfer y sesiwn perthnasol ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig.

Dyddiad cau cyflwyno datganiadau – ganol dydd ar 11 Mehefin 2019

WYTHNOS 1: 

Gwrandawiad 1: Mawrth 25 Meh 2019 am 10:00 – Paratoad, gweledigaeth a nodau’r cynllun

Gwrandawiad 2: Mawrth 25 Meh 2019 am 13:00 – Strategaeth, cyflenwi ac isadeiledd y Cynllun

Gwrandawiad 3: Mer 26 Meh 2019 am 10:00 – Tai

Gwrandawiad 4: Iau 27 Meh 2019 am 10:00 – Dyraniadau safleoedd strategol a safleoedd tai

Gwrandawiad 5: Gwen 28 Meh 2019 am 10:00 – Datblygiad masnachol, manwerthu, hamdden a thwristiaeth

WYTHNOS 2: 

Gwrandawiad 6: Mawrth 2 Gorff 2019 am 10:00 – Polisïau Rheoli Datblygiad 1

Gwrandawiad 7: Mer 3 Gorff 2019 am 10:00 – Polisïau Rheoli Datblygiad 2

Gwrandawiad 8: Iau 4 Gorff 2019 am 10:00 – Ynni adnewyddadwy, mwynau, monitro a materion eraill

WYTHNOS 3:

Gwrandawiad 9: Dydd Mercher 21 Awst 2019 am 10:00 - Cyflenwad Tir Tai a dyraniadau  safle