Ar-lein, Mae'n arbed amser

Amddiffyn

Beth yw cam-drin?

Mae gan bawb yr hawl i’w hurddas dynol a byw eu bywydau’n rhydd oddi wrth gamdriniaeth ac esgeulustod.

Byddai gwarchod y rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, pan fo angen hynny arnynt, yn gallu sicrhau gwell ansawdd bywyd i lawer o bobl. Gall rhai oedolion fod yn arbennig o agored i niwed o ran cael eu cam-drin a chael eu hurddas dynol wedi ei ddiystyru’n rheolaidd.

Mae Awdurdodau Lleol, yr heddlu, y bwrdd iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn cydweithio ac yn ymroddedig i sicrhau fod oedolion sy’n agored i niwed yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod, a byddant yn gweithredu ar unwaith pan fo hynny’n angenrheidiol, i amddiffyn oedolion sy’n agored i niwed rhag niwed hwnnw.

Pwy allai fod yn ‘oedolyn mewn perygl’?

Dyma’r diffiniad o ‘oedolyn mewn perygl’:
Mae ‘Oedolyn mewn perygl’ yn berson 18 oed a hŷn sydd:

(a) yn profi camdriniaeth neu mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod
(b) ag angen gofal a chymorth (boed yr awdurdod yn diwallu unrhyw rai o’r anghenion hynny ai peidio), ac
(c) o ganlyniad i’r anghenion hynny ni all ddiogelu ei hun yn erbyn y gamdriniaeth neu esgeulustod neu’r risg ohono

Ymhlith yr esiamplau o ‘oedolyn mewn perygl’ mae pobl ag anableddau dysgu, problemau iechyd meddwl, pobl hŷn a phobl anabl yn enwedig pan fo’u sefyllfa’n cael ei chymhlethu gan ffactorau ychwanegol fel bod yn fregus yn gorfforol, salwch cronig, nam synhwyraidd, ymddygiad heriol, diffyg gallu meddyliol, problemau cymdeithasol ac emosiynol, tlodi, digartrefedd neu gam-drin sylweddau.

Diffinio cam-drin:

"trosedd yn erbyn hawliau dynol a dinesig yr unigolyn, gan berson arall neu bersonau eraill, sy’n arwain at niwed sylweddol."
Gall cam-drin ddigwydd yn unrhyw le – mewn cartref preswyl neu nyrsio, mewn ysbyty, yn y gweithle, yn eich cartref eich hun, mewn canolfan ddydd neu sefydliad addysgiadol, neu mewn tai lle ceir cefnogaeth.

Mae mathau o gam-drin yn cynnwys:

  • Cam-drin corfforol fel bwrw, gwthio, pinsio, ysgwyd, defnyddio gormod o feddyginiaeth neu wrthod gadael i berson gymryd ei feddyginiaeth.
  • Cam-drin rhywiol fel gorfodi gweithred rywiol ar rywun, cyffwrdd amhriodol, trais, ymosodiad rhywiol, neu weithredoedd rhywiol nad ydych wedi cydsynio iddynt, neu y rhoddwyd pwysau arnoch i gydsynio iddynt.
  • Cam-drin seicolegol neu emosiynol fel bychanu, bygwth, cam-drin geiriol neu waradwyddo, beio, rheoli neu aflonyddu, anwybyddu’n fwriadol neu ynysu oddi wrth ffrindiau, teulu, gwasanaethau neu gefnogaeth.
  • Cam-drin ariannol fel twyll neu ecsploetiaeth, dwyn neu ddal eich arian yn ôl neu wario’n amhriodol, rhoi pwysau arnoch i wneud newidiadau i’ch ewyllys neu gamddefnyddio’ch cartref, etifeddiaeth, eiddo neu fudd-daliadau.
  • Esgeulustod fel anwybyddu anghenion gofal meddygol neu gorfforol, atal mynediad at wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol neu addysgol, ddim yn gofalu amdanoch yn y ffordd gywir, ddim yn rhoi digon o fwyd i chi neu’n eich rhoi mewn perygl.
    Gall unrhyw un o’r ffurfiau hyn o gam-drin fod un ai’n fwriadol neu o ganlyniad i anwybodaeth neu ddiffyg hyfforddiant, gwybodaeth neu ddealltwriaeth.

Ambell waith gall pobl gael eu cam-drin mewn mwy nag un ffordd.

Pwy all fod yn achosi’r gamdriniaeth?

Mae’n bosibl eich bod yn adnabod y person sy’n gyfrifol am y cam-drin. Gall fod yn:

  • Ofalwr a gaiff ei dalu
  • Gweithiwr iechyd, gofal cymdeithasol neu weithiwr arall
  • Ffrind neu gymydog – rhywun sydd mewn sefyllfa o ymddiriedaeth â’r ‘person mewn perygl’
  • Preswyliwr arall neu rywun arall sy’n ddefnyddiwr gwasanaeth
  • Perthynas - gall gofalu ar ôl ‘oedolyn mewn perygl’ fod yn anodd
Gwefan Bwrdd Diogelu Cwm Taf

Mae'r wefan hon yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i'r cyhoedd, plant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n dod i gysylltiad â phlant a'u teuluoedd drwy rinwedd eu gwaith.

Mae'r wefan wedi ei chynllunio i helpu asiantaethau, sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda phlant, gan gynnwys teuluoedd a rhieni yn ogystal ag aelodau'r gymuned ehangach, er mwyn helpu i gadw ein plant a’n pobl ifanc yn ddiogel.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Cwm Taf Morgannwg Bwrdd Diogelu

Contact Details

Gwasanaethau Merthyr Tudful Ffôn: 01685 725000
Ar agor: 8.30yb – 5.00yp (dydd Llun i ddydd Iau), 8.30yb – 4.30yp (dydd Gwener)

Tîm Dyletswydd Argyfwng: 01443 743665
5.00yp – 8.30yb (dydd Llun i ddydd Iau), 4.30yp – 8.30yb (dydd Gwener i ddydd Llun)

Os ydych chi'n poeni bod trosedd wedi'i gyflawni, ffoniwch yr Heddlu ar 999 ar unwaith.