Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gofal Preswyl a Nyrsio
Ble bynnag y bo’n bosibl byddwn yn darparu cymorth i chi aros yn eich cartref, fodd bynnag gallai’r amgylchiadau godi pan na fyddwch chi neu rywun yr ydych yn rhoi cymorth iddo yn gallu parhau i aros gartref. Er mwyn pennu pa fath o gartref y byddai ei angen arnoch i wneud yn siŵr y byddai’n bodloni eich anghenion cymorth penodol, bydd angen cyflawni asesiad.
Codir tâl am unrhyw gartref gofal a bydd y swm y byddwch yn ei dalu’n dibynnu ar eich amgylchiadau personol
Ym Merthyr ceir cymysgedd o Gartrefi’r Awdurdod Lleol a Chartrefi Annibynnol. Gellir cael gwybodaeth am yr holl gartrefi yn yr ardal oddi wrth DEWIS. Gellir dod o hyd i gartrefi preswyl a ddarperir gan Gyngor Merthyr yma:
Cartrefi Gofal Pobl Hŷn yr Awdurdod Lleol
Mae gan yr Awdurdod ddau gartref gofal preswyl i bobl hŷn. Mae’r cartrefi’n darparu gofal preswyl hir dymor a byr dymor i hyd at 32 o unigolion, yn ddynion ac yn fenywod, dros 65 oed â dementia neu hebddo.
Cartref Gofal Tŷ Gurnos Newydd
Gurnos
Merthyr Tudful
CF47 9PT
Telephone 01685 725059
Mae Cartref Gofal Tŷ Gurnos Newydd yn gartref gofal a adeiladwyd i’r pwrpas yn ddiweddar ac a agorodd ym mis Rhagfyr 2013. Mae’r llety a ddarperir mewn 32 o ystafelloedd sengl, bob un â thoiled a chawod yr un. Mae’r ystafelloedd wedi eu haddurno i safon uchel ac â dodrefn gosodedig.
Wedi ei leoli yn y Gurnos, mae’r cartref yn agos at amwynderau fel teithiau bws, siopau, swyddfa bost a’r clwb cymdeithasol.
Cartref Gofal Tŷ Bargoed
Teras Williams
Treharris
Merthyr Tudful
CF46 5HH
Ffôn 01685 725064
Mae Cartref Gofal Tŷ Bargoed Newydd yn gartref gofal a adeiladwyd i’r pwrpas yn ddiweddar ac a agorodd ym mis Rhagfyr 2013. Mae’r llety a ddarperir mewn 32 o ystafelloedd sengl, bob un â thoiled a chawod yr un. Mae’r ystafelloedd wedi eu haddurno i safon uchel ac â dodrefn gosodedig. Wedi ei leoli yn Nhreharris, mae’r cartref yn agos at amwynderau fel teithiau bws, siopau, swyddfa bost a thai tafarn.
Cartref yr Awdurdod Lleol ar gyfer Oedolion Iau
Llysfaen
Cefn Coed
Merthyr Tudful
CF48 2NE
Ffôn: 01685 725057
Cartref i oedolion ag anawsterau dysgu yw Llysfaen wedi ei leoli yng nghymuned pentref Cefn Coed, yn agos at ganol tref Merthyr Tudful.
Mae Llysfaen yn darparu llety lefelau ar wahân ac yn darparu llety hir dymor a llety seibiant i hyd at 8 person. Gall gynnig llety i bobl ag anableddau dysgu sy’n oedolion iau, pobl hŷn, pobl ag anabledd corfforol neu iechyd meddwl (ymarferol).
Mae’r cyfleusterau ar gyfer gofal hir dymor ar wahân i’r rheini o’r uned seibiant.
Rhaid cael asesiad proffesiynol fel maen prawf am fynediad.