Ar-lein, Mae'n arbed amser

Grwpiau a sefydliadau cefnogi gofalwyr

Ydych chi’n rhoi gofal a chefnogaeth i rywun sy’n dost, sy’n hŷn, sy’n dioddef o gyflwr iechyd meddwl neu anabledd ac nid ydych yn derbyn cyflog i wneud y gwaith hwn? Gall y person rydych yn gofalu amdano fod yn gyfaill, yn aelod o’r teulu neu’n gymydog. Efallai eich bod yn eu helpu i gyrraedd apwyntiadau, i baratoi prydiau bwyd neu ddiodydd, eu helpu nhw i ymolchi neu i wisgo. Tra bod hwn yn gallu bod yn beth gwerthfawr i’w wneud, gall hefyd fod yn heriol a gallwch deimlo’n unig ac yn brin o gefnogaeth eich hun.

A hoffech chi dderbyn cefnogaeth, gwybodaeth neu gyngor? Mae’n bosib y gall Partneriaeth Gofalwyr Digyflog Merthyr Tudful eich helpu!

Mae yno sefydliadu a gwasanaethau yn ardal Merthyr Tudful a all gynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i chi.

Isod mae’r unigolion a’r sefydliadau sydd yn rhan o Bartneriaeth Gofalwyr Digyflog Merthyr Tudful. Os ydych chi’n sefydliad a all gefnogi gofalwyr mewn unrhyw ffordd ac yn awyddus i fod yn rhan o’r bartneriaeth, cysylltwch â Caitlin Matthews ar caitlin.matthews@merthyr.gov.uk.

Cysylltwch â’n Cydlynwyr Cefnogaeth i Ofalwyr:

Caroline Lamont

E-bost: caroline.lamont@merthyr.gov.uk

Rhif ffôn: 07561 601917

Caitlin Matthews

E-bost: caitlin.matthews@merthyr.gov.uk  

Rhif ffôn: 07762 408368

Partneriaeth Gofalwyr Digyflog Merthyr Tudful

Gwefan: https://vamt.net/cy/

Rhif ffôn: 01685 353900

Mae’r sefydliad hwn yn cefnogi, yn cysylltu ac yn cynrychioli sefydliadau gwirfoddol a chymunedol Merthyr Tudful. Darpara gyngor ar gyllido, llywodraethu, hyfforddiant a rhwydweithio. Mae gan VAMT gysylltiadau agos â'r Awdurdod Lleol i sicrhau bod llais y sector gwirfoddol yn cael ei glywed.

Gwefan: https://canceraidmerthyr.co.uk/

Rhif ffôn: 01685 379633

E-bost: info@canceraidmerthyr.co.uk

Cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i unigolion, teuluoedd a gofalwyr sydd wedi eu heffeithio gan ddiagnosis o gancr.

Gwefan: https://allwalespeople1st.co.uk/local/4635-2/?lang=cy

Rhif ffôn: 01443 757954

E-bost: enquiries@rctpeoplefirst.org.uk

Cefnogaeth gan gyfoedion wedi arwain gan, ac ar gyfer pobl sydd ag Anghenion Dysgu.

Gwefan: https://haloleisure.org.uk/community/carers-respite-programme/

Rhif ffôn: 01685 727476

Pentref Hamdden Merthyr Tudful  

Mae’r sefydliad hwn yn helpu cymunedau Merthyr Tudful i fyw bywydau heini ac iach drwy gymryd rhan mewn cyfleoedd hamdden sydd o fewn cyrraedd ac sy’n llawn hwyl.

Halo Leisure

Gwefan: https://gellideg.net/cy/

Rhif ffôn: 01685 383929

Canolfan Les Canol-Y-Bryn, 

Heol Tai Mawr, Gellideg, Merthyr Tudful CF48 1ND

Gweithgareddau cyfannol, cymunedol, sy’n creu cyfleoedd cadarnhaol a pharhaol i bobl Merthyr Tudful wella a chynnal lles corfforol, emosiynol a chymdeithasol.

Gwefan: https://peopleplus.co.uk/independent-living-service/merthyr-tydfill

Rhif Ffôn: 01685 383340

Darpara gymorth cyflogaeth, hyfforddiant sgiliau, cymorth i fyw'n annibynnol, addysg carchar, cefnogaeth i gychwyn busnes, a chymorth i helpu cyflogwyr i ffynni.

Gwefan: https://www.ageconnectsmorgannwg.org.uk/cy/home

Rhif Ffôn: 01443 490650

Linc Cynon, Stryd Seymour, Aberdâr, CF44 7BL

Gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau i gefnogi pobl hŷn i allu parhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain yn annibynnol cyn hired â phosib. Maent yn cynnig gwybodaeth annibynnol a chyfrinachol, cyngor a chefnogaeth yn ymwneud ag amrywiaeth o faterion megis gofal, materion cyfreithiol, iechyd, tai, incwm a budd-daliadau, prynu, dysgu a gwaith.   

https://www.facebook.com/groups/merthyrtydfilcarers/

Darpara wybodaeth ynghylch y gweithgareddau a’r digwyddiadau sydd ar y gorwel. Gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth. 


Dolenni defnyddiol