Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gofalwyr ifanc - cyngor a chefnogaeth

Gofalwr Ifanc yw rhywun o dan 18 oed sy’n cymryd cyfrifoldeb am rywun yn eu teulu sy’n sâl, anabl, yn dioddef salwch meddwl neu’n cael eu heffeithio gan gamddefnydd sylweddau. Efallai eu bod yn darparu’r holl ofal neu’n helpu rhywun arall i ddarparu gofal. Gall natur y gofal a ddarparant fod yn eang iawn a gall cynnwys gofal ymarferol fel tasgau gwaith tŷ, gofal personol fel gweini meddyginiaeth neu gefnogaeth emosiynol.

Mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Merthyr yn rhoi cyfle i ofalwyr ifanc fod yn blant ac yn bobl ifanc trwy ddarparu clybiau ar ôl ysgol a dyddiau gweithgareddau rheolaidd i rai eraill mewn sefyllfa debyg iddyn nhw, yn ogystal â chefnogaeth un-i-un, seibiannau preswyl ac unrhyw gymorth arall y gall y gofalwr ifanc a’u teulu fod ei angen.

Os ydych chi’n ofalwr ifanc neu’n adnabod gofalwr ifanc sy’n byw ym Merthyr Tudful ac yr hoffech gael gwybod mwy am y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael, cysylltwch:

Manylion Cyswllt

Merthyr Young Carers Service
3Gs Development Trust
15 Chestnut Way
Gurnos
Merthyr Tudful
CF47 9SB

Telephone: 01685 725171

DEWIS Cymru