Ar-lein, Mae'n arbed amser
Canolfannau cymdeithasol a dydd
Mae Canolfannau Dydd y Gyfarwyddiaeth yn cynorthwyo’r bobl hynny sydd ag angen cymorth dwys neu arbenigol arnynt. Bydd dod o hyd i’r un cywir ar eich cyfer chi’n ddibynnol ar asesiad o’ch anghenion. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd angen cymorth gofal personol arnoch, dod o hyd i ffyrdd o fyw’n annibynnol, sgiliau coginio ymarfer corff syml neu gymorth i gael mynediad at gyflogaeth neu gyfleoedd dysgu.
Ceir Canolfannau eraill ble y gallwch gwrdd â ffrindiau a chael sgwrs. Mewn rhai ohonynt gallwch fwynhau pryd o fwyd neu weithgareddau cymdeithasol eraill.
Er y gwnawn ein gorau glas i’ch helpu chi i fynd allan ac o gwmpas y lle yn lleol, weithiau gall grwpiau eraill - fel grwpiau gwirfoddol neu hunangymorth - eich helpu chi yn fwy. Os felly, byddwn yn dod â chi at eich gilydd i gwrdd.
Y Broses Gyfeirio
Gellir cael mynediad at Wasanaethau Dydd yr Awdurdodau Lleol drwy ddilyn Asesiad o Anghenion gyda’r unigolyn sy’n dynodi bod gwasanaeth yn ofynnol. Bydd y Rheolwr Asesu Gofal yn gofyn am ymateb gwasanaeth drwy Banel Gwasanaethau Dydd. Ar ôl cadarnhau’r gwasanaeth bydd y Rheolwr Asesu Gofal yn sicrhau y bydd yr Asesiad Anghenion, Cynllun Gofal a chopi o’r Asesiad Ariannol (Polisi Codi Tâl) yn cael eu symud ymlaen at y Darparwr. Bydd y broses hon, o dan amgylchiadau cyffredin, yn cymryd dim mwy na 5 niwrnod gwaith i’w prosesu (ar ôl derbyn y gwaith papur priodol). Gellir defnyddio cyfnod prawf os yw hynny’n angenrheidiol. Cysylltwch â’r Swyddog ar Ddyletswydd am ragor o fanylion.
Nodau’r Gwasanaeth
- Datblygu ymatebion gwasanaeth sy’n flaengar ac yn effeithiol ac yn diwallu anghenion yr unigolyn, drwy ddarparu, ble y bo’n briodol amrywiaeth o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar waith, addysg a hamdden.
- Datblygu a darparu amrywiaeth o wasanaethau ansawdd uchel sy’n adlewyrchu gwerthoedd craidd y gwasanaeth.
- Gweithio mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaeth, eu gofalwyr, gyda darparwyr eraill a’r Gymuned ehangach.
- Hyrwyddo modelau arfer gorau drwy ein gwaith.
- Hyrwyddo a mabwysiadu’r Dull sy’n Canolbwyntio ar y Person o ran cynllunio, cyflenwi a gwerthuso’r gwasanaeth.
- Sicrhau fod yna ddull gweithredu sy’n strwythuredig o ran cyfranogiad Defnyddiwr Gwasanaeth o fewn y gwasanaeth.
- Ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth, eu gofalwyr a rhanddeiliaid perthnasol eraill, yn rheolaidd.
Yr Athroniaeth Gofal sy’n tanategu’r Gwasanaeth
Mae hawl gan bob unigolyn ag anabledd dysgu, anabledd corfforol ac unigolion â phroblem iechyd meddwl i’r canlynol:
- Patrymau bywyd normal yn y Gymuned.
- Cael eu trin fel unigolion.
- Cefnogaeth briodol i ddatblygu a chadw eu potensial fel unigolion. Cyfleoedd cyfartal.
- Bod yn bresennol yn eu Cymunedau, gan ddefnyddio’r un cyfleusterau â dinasyddion eraill.
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau ochr yn ochr â chyd-ddinasyddion.
- Datblygu a chynnal perthnasoedd.
- Datblygu sgiliau a diddordebau ar hyd a lled amrywiaeth eang o feysydd.
- Cael eu cefnogi i wneud penderfyniadau gwybodus.
- Cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.
Manylion hysbysiadau ar gyfer canslo / darfod y Gwasanaeth
Un ai gan ddefnyddiwr y gwasanaeth neu gan y Sefydliad. Bydd y broses yma’n bennaf yn digwydd drwy Adolygiad/ Adolygiad heb ei Gynllunio o’r ddarpariaeth bresennol o’r gwasanaeth, gyda’r Gwasanaeth Darparu a’r Timau Asesu a Gofal, a’r cais am ddiweddariad o’r Anghenion Asesu os ydynt yn ofynnol.
Trafnidiaeth Gwasanaethau Dydd
Os ydych chi’n cael trafferth defnyddio ceir cyffredin a bysiau, mae gwasanaethau arbennig ar gael. Gallwn eich cysylltu chi â nhw. Gellir hefyd gwneud trefniadau trafnidiaeth arbennig i’ch helpu chi i ddefnyddio ein gwasanaethau.
Manylion cyswllt
Ffôn: 01685 724500
Ffacs: 01685 376608