Ar-lein, Mae'n arbed amser

Grant Cymorth Tai

Rhaglen Cymorth Tai

Cefndir

Sefydlwyd y Rhaglen Cefnogi Pobl yn 2003 yn sgil y Budd-dal Tai Trosiannol. Yna, fe aeth y Rhaglen Cefnogi Pobl ati i gomisiynu’r Gwasanaethau Cymorth sy’n Gysylltiedig â Thai ar gyfer y rhai oedd angen tai. Llwyddodd y Gwasanaethau Cefnogi Pobl i wella iechyd pobl, darparu gwell mynediad i wasanaethau ar gyfer pobl fregus, a chynorthwyo pobl i gyrraedd gwir annibyniaeth, dewis a rheolaeth dros eu bywydau trwy fyw’n fwy annibynnol. Ym mis Ebrill 2019, unodd Llywodraeth Cymru y Grant Cefnogi Pobl, y Grant Atal Digartrefedd ynghyd ag elfen orfodol Rhentu Doeth Cymru, i greu’r Grant Cymorth Tai (HSG) newydd.
Cymorth sy’n Gysylltiedig â Thai

Gall Cymorth sy’n Gysylltiedig â Thai gynnwys y canlynol:

• cymorth i sicrhau diogelwch a diogeledd yr eiddo
• cymorth i reoli mynediad i’r eiddo
• cymorth i drefnu bod teclynnau’n cael eu gwasanaethu a’u trwsio
• trefnu addasiadau i ymdopi ag anabledd
• cymorth i drefnu bod mân bethau’r eiddo yn cael eu cynnal a chadw a’u trwsio
• cymorth i ddefnyddio teclynnau’r cartref yn ddiogel
• cymorth i ddelio ag anghydfodau a chyfathrebu ag eraill yn briodol
• cymorth i gyllidebu, gwneud y mwyaf o’r incwm a rheoli ymrwymiadau ariannol
• cymorth i drefnu mynediad at gymorth proffesiynol, e.e. Meddyg Teulu/Gwasanaethau Cymunedol
• cymorth i ddatblygu sgiliau bywyd bob dydd a’u haddysgu

Y Gwasanaethau Cymorth sydd Ar Gael

Mae’r Rhaglen Cefnogi Pobl yn ariannu dau gategori o gefnogaeth yn bennaf: Llety â Chymorth a Chymorth fel y bo’r Angen. Mae’r gwasanaethau a ariennir gan y Grant Cymorth Tai yn cefnogi pobl ag ystod o anghenion gan gynnwys:

• Digartrefedd
• Cam-drin Domestig
• Iechyd Meddwl
• Pobl Ifanc
• Anableddau Dysgu
• Pobl Hŷn

Pwynt Mynediad Sengl

Er mwyn cyrchu unrhyw un o’r Gwasanaethau Cefnogi Pobl, rhaid cwblhau cais am y Pwynt Mynediad Sengl a’i ddychwelyd i’r tîm. Y Pwynt Mynediad Sengl yw’r unig fecanwaith atgyfeirio i wasanaethau’r Grant Cymorth Tai. Defnyddir y Pwynt Mynediad Sengl hefyd fel modd i gasglu gwybodaeth ar gyfer cynllunio a chomisiynu gwasanaethau’r Grant Cymorth Tai.

Cynllunio ar gyfer gwasanaethau

Defnyddir gwybodaeth o sawl ffynhonnell wrth gynllunio ar gyfer gwasanaethau’r Grant Cymorth Tai. Mae hyn yn cynnwys data anghenion a gesglir trwy’r Pwynt Mynediad Sengl a gwybodaeth arall gan gynnwys data anghenion eraill, tueddiadau’r boblogaeth a newidiadau deddfwriaethol. Caiff gwasanaethau eu cynllunio trwy Grŵp Cynllunio’r Grant Cymorth Tai a’u gosod allan yn y Cynllun Comisiynu Lleol Blynyddol.

Cyd-destun rhanbarthol

Cafodd Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol ei sefydlu rhwng Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Aeth y Pwyllgor hwnnw ati i: oruchwylio’r cynlluniau comisiynu lleol; creu’r Cynllun Comisiynu Rhanbarthol; pennu’r blaenoriaethau rhanbarthol; a chefnogi’r dasg o fonitro cyfranogiad y defnyddwyr gwasanaeth ledled y rhanbarth. O dan ganllawiau newydd y Grant Cymorth Tai, caiff y rôl hon ei gyflawni bellach gan y Grŵp Cymorth Cydweithredol Tai Rhanbarthol. Ymunodd Pen-y-bont ar Ogwr â’r patrwm rhanbarthol yn 2018 ar ôl i ardaloedd y Bwrdd Iechyd gael eu hail-drefnu, gan greu Grŵp Cymorth Cydweithredol Tai Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg. Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://www.merthyr.gov.uk/council/partnership-working/?lang=cy-GB&

Cymryd rhan

Y ffordd orau o greu gwasanaethau ar gyfer unrhyw grŵp cleientiaid yw tystiolaethu’r angen. Y brif ffynhonnell wybodaeth a ddefnyddir wrth gynllunio gwasanaethau yw’r wybodaeth sydd ei hangen ar y Pwynt Mynediad Sengl. Cesglir y wybodaeth hon trwy lenwi ffurflenni’r Pwynt Mynediad Sengl ar gyfer atgyfeirio a mapio anghenion. Mae yna hefyd pro fforma ar gyfer cynnig prosiect y gellir ei gwblhau a’i gyflwyno i Grŵp Cynllunio’r Grant Cymorth Tai.

DEWIS Cymru

Cysylltwch â Ni

Oeddech chi’n chwilio am?