Ar-lein, Mae'n arbed amser

Iechyd Meddwl

Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn rhan o elfen gofal cymdeithasol y gwasanaethau cymdeithasol. Mae’r adran hon wedi ei anelu at ddarparu gwybodaeth gyffredinol am Wasanaethau Iechyd Meddwl, gwybodaeth ar sut mae cael mynediad at ein gwasanaeth a gwybodaeth allweddol/ arweiniad ar gyfer ymarferwyr a staff cefnogaeth.

Mae’r Gyfarwyddiaeth mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf wedi ymrwymo i gefnogi pobl gydag anawsterau Iechyd Meddwl i fyw byw mor annibynnol â phosib o fewn eu cymuned.

Ym Mharc Iechyd Kier Hardie, anelwn at fod yn gyfeillgar, croesawgar a phroffesiynol. Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau ar gyfer pobl gydag anawsterau iechyd meddwl sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Gallwn hefyd ei helpu i gysylltu gyda gwasanaethau arbenigol eraill os ydych ei hangen.

Mae eich Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn cynnwys amrywiaeth o staff proffesiynol iechyd meddwl yn cynnwys:

  • Therapyddion Galwedigaethol
  • Seicolegwyr
  • Gweithwyr Cymdeithasol
  • Nyrsys a Gofalwyr Seiciatreg Gymunedol

Mae gennym hefyd staff gweinyddol a staff domestig sy’n cefnogi’r tîm.

Gallwn eich helpu i gynllunio eich gofal yn ogystal â chynnig amrywiaeth o gefnogaeth. Gallwn weithio gyda chi am gyfnodau hir neu fyr. Anelwn at eich galluogi i wella eich iechyd meddwl, ac ymdopi gydag effeithiau hir dymor problemau iechyd meddwl.

Cyfeiriad a chael eich gweld

Gallwch gael eich cyfeirio at y tîm gan lawer o bobl yn cynnwys:

  • Meddyg Teulu
  • Staff proffesiynol iechyd neu ofal cymdeithasol (e.e. ymwelydd iechyd, gweithiwr cymdeithasol)
  • Eich hun
  • Teulu
  • Ffrindiau
  • Grwpiau gwirfoddol (sesiwn galw- mewn gan elusen iechyd meddwl)

Os yw’r cyfeiriad yn addas ar gyfer ein gwasanaeth, byddwch fel arfer yn derbyn apwyntiad fel ein bod yn gallu cwrdd yn y Parc Iechyd. Gallwn eich gweld yn eich cartref, dim ond os oes anawsterau arbennig yn eich rhwystro rhag dod i’r Parc Iechyd.

Pan fyddwch yn cyfarfod aelod o staff gyntaf byddant yn asesu eich anghenion iechyd meddwl gyda chi ac yn edrych are ich pryderon a’ch anawsterau. Yn dibynnu ar eich angen, bydd un o’r canlynol yn digwydd:

  • Bydd gwasanaeth gan y tîm yn cael ei gynnig;
  • Byddwch yn cael eich cyfeirio at wasanaeth arall a fydd yn cynnig gwasanaeth mwy addas.
  • Mewn rhai achosion efallai na fydd angen cefnogaeth bellach arnoch.

Manylion cyswllt

Gallwch ysgrifennu, ffonio neu alw i’n gweld:

Adran Iechyd Meddwl
Llawr 1af
Parc Iechyd Kier Hardie
Ffordd Aberdâr
Merthyr Tudful
CF48 1BZ

Amser agor

9.00am-5.00pm dydd Llun i ddydd Gwener.

Nodwch: yn ystod yr amserau hyn mae swyddog ar ddyletswydd ar gael i gymryd cyfeiriadau neu gynnig cefnogaeth. Os oes genych argyfwng tu allan i oriau gwaith ffoniwch 01443 849944. Mae gwasanaethau eraill ar gael y gellir dod o hyd iddynt yn “ Canllaw i Wasanaethau ar gyfer Lles Meddyliol ac Emosiynol” sydd ar gael o feddygfeydd meddygon teulu, Llyfrgelloedd ayyb.

Cyfeiriadau

Rydym wedi ein lleoli ger yr A470 ar bwys Parc Manwerthu Cyfarthfa.

Parcio Ceir

Mae maes parcio tu allan i’r adeilad, ac mae mynediad ramp ar gael.