Ar-lein, Mae'n arbed amser

Taliadau Uniongyrchol

Mae Taliadau Uniongyrchol yn ffordd o drefnu’ch gwasanaethau gofal eich hun drwy dderbyn taliadau arian parod rheolaidd yn lle cael gwasanaethau wedi eu trefnu neu eu darparu gan yr Awdurdod Lleol.

Mae Taliadau Uniongyrchol wedi eu cynllunio i roi hyblygrwydd i chi a diwallu eich anghenion gofal yn y modd sydd fwyaf cyfleus i chi. Gyda Thaliadau Uniongyrchol rydych chi’n dewis pwy sy’n darparu’r gofal i ddiwallu eich anghenion a chi sy’n rheoli pryd y caiff y gwasanaethau eu cyflenwi.

Os ydych chi’n gymwys i dderbyn gwasanaethau, gall Taliad Uniongyrchol eich helpu i gael rhagor o annibyniaeth drwy roi rheolaeth i chi am sut y caiff eich anghenion eu diwallu. Gyda Thaliad Uniongyrchol rydych chi’n dewis pwy sy’n darparu’r gofal sydd ei angen arnoch ac yn penderfynu pryd y caiff y gwasanaethau eu cyflenwi.

Rhaid i chi gofio bod y taliadau hyn ddim ond yn cael eu gwneud i’ch helpu chi i brynu gofal sy’n diwallu’ch anghenion a aseswyd ac nad arian ychwanegol ydyw i’w wario yn ôl eich mympwy. Ni all yr arian, er enghraifft, dalu am wasanaethau yr ydych yn eu derbyn oddi wrth Iechyd neu’r Adran Dai. Nid ystyrir Taliadau Uniongyrchol i fod yn incwm, felly ni fydd yn effeithio ar sefyllfa eich treth incwm a/ neu fudd-daliadau.

Efallai y bydd disgwyl i chi dalu cyfraniad tuag at eich Gwasanaeth Taliadau Uniongyrchol yn yr un modd ag y byddech chi pe bai’r Cyngor yn trefnu’ch gwasanaeth. Gall y daflen Talu am Ofal a Chefnogaeth yn y Gymuned ar waelod y dudalen ddarparu mwy o wybodaeth am hyn.

Pwy all dderbyn Taliadau Uniongyrchol?

Mae dyletswydd arnom ni i gynnig Taliadau Uniongyrchol i bawb y mae’n bosibl eu bod yn gymwys i’w derbyn. Ymhlith y grwpiau cymwys mae:

  • Oedolion anabl sy’n derbyn neu’n gymwys i dderbyn Gwasanaethau Gofal Cymunedol;
  • Pob oedolyn dros 65 sy’n gymwys am Wasanaethau Gofal Cymunedol;
  • Pobl sy’n derbyn gwasanaethau gofalwyr;
  • Person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl;
  • Person anabl 16 neu 17 oed;
  • Mae’n bosibl y gallai pobl heb y gallu i ddewis Taliad Uniongyrchol gael “Person Addas” wedi ei benodi ar eu cyfer.

Nid oes raid eich bod yn derbyn gwasanaethau ar hyn o bryd i fod yn gymwys am Daliadau Uniongyrchol.  Fodd bynnag, gallwch newid gwasanaethau presennol am Daliadau Uniongyrchol os ydych yn dewis gwneud hynny; cyhyd â’ch bod chi wedi cael asesiad o’r angen, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys.

Er mwyn derbyn Taliad Uniongyrchol, mae’n rhaid bod gennych y gallu i reoli’r Cynllun ar eich pen eich hun neu â chymorth.

Mae PeoplePlus yn darparu cynllun cymorth i helpu pobl sydd eisiau defnyddio Taliadau Uniongyrchol i reoli’u cyfrifoldebau.

Pa help y gall PeoplePlus ei ddarparu?

Mae gan y Cynllun Cefnogi Taliad Uniongyrchol ymgynghorwyr a all gwrdd â chi i drafod y cynllun Taliadau Uniongyrchol a’ch helpu chi i benderfynu a hoffech dderbyn eich gwasanaethau fel hyn.

Os ydych yn dewis cael Taliad Uniongyrchol, gall PeoplePlus y eich helpu i gyflawni eich cyfrifoldebau fel cyflogwr:

  • Gallant gynorthwyo wrth recriwtio eich staff cefnogi (gelwir y rhain yn Gynorthwywyr Personol neu CP);
  • Gallant drefnu i dalu’r CP ar eich rhan a delio â Threth Incwm, cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac yn y blaen...
  • Gallant drefnu bod gwiriadau’r heddlu yn digwydd;
  • Bydd angen i chi agor cyfrif banc ar wahân ar gyfer eich Taliadau Uniongyrchol;
  • Bydd y cynllun cefnogi yn eich helpu i reoli a chyfrif am yr arian yr ydych yn ei dderbyn oddi wrth yr Awdurdod Lleol;
  • Bydd angen i’r Awdurdod Lleol archwilio eich cyfrifon yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn ymdopi a gall y cynllun cefnogi eich helpu yn hyn o beth gan fodloni gofynion cyfraith cyflogaeth, hynny yw diogelu lles eich cynorthwywyr personol.
  • Trefnu’r yswiriant cywir i’ch diogelu.

Cyn ein bod ni’n cytuno rhoi Taliadau Uniongyrchol i chi, bydd rhaid i ni fod yn fodlon eich bod yn llwyddo i fodloni’r cyfrifoldebau hyn.

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Os nad ydych yn derbyn unrhyw wasanaethau oddi wrthym ar hyn o bryd, bydd angen i chi drefnu asesiad angen. Gellir trefnu hyn drwy’r Swyddog ar Ddyletswydd ac mae’r manylion cyswllt isod.

Os ydych chi eisoes yn derbyn gwasanaethau a bod gennych ddiddordeb newid i Daliadau Uniongyrchol, cysylltwch â’ch gweithiwr cymdeithasol neu’r swyddog ar ddyletswydd a fydd yn trefnu cwrdd â chi i drafod y cynllun.

Sut gallaf i ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol?

Cyn gynted ag y bydd cytuno ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnoch, gallwch drefnu i gael Taliad Uniongyrchol i brynu’r gefnogaeth eich hun. Ni allwch ddefnyddio’r arian at unrhyw ddiben arall.

Sut ydw i’n dod o hyd i gynorthwywyr personol addas?

Os nad ydych wedi dewis unrhyw un i roi cymorth i chi eto, bydd y Ganolfan Ddewis yn eich helpu i recriwtio pobl addas i ddarparu eich gofal.

A allaf i gyflogi perthynas agos fel cynorthwyydd personol?

Ceir cyfyngiadau o ran bwy all gael ei gyflogi. Fel arfer caiff perthynas agos ei eithrio.

Sut ydw i’n talu’r cynorthwyydd personol?

Bydd angen i chi gael cyfrif banc ar wahân ar gyfer hyn. Gall y Cynllun Cefnogi helpu o ran trefnu hyn a threfnu taliadau.

Beth am eu Treth a’u Hyswiriant Gwladol nesaf?

Eich cyfrifoldeb chi yw talu am y rhain ond unwaith eto, gall y Ganolfan Ddewis eich helpu yn hyn o beth.

A oes angen i mi gadw cofnodion?

Oes, bydd angen i ni fonitro’r defnydd o’r Taliadau Uniongyrchol, felly bydd angen i chi gadw cyfriflenni banc a dogfennau tebyg. Mae cymorth ar gael hefyd i’ch helpu chi gyda hyn. Mae taflen ar waelod y dudalen yn darparu gwybodaeth bellach am yr adolygiadau yr ydym yn eu cynnal.

Beth sy’n digwydd os yw f’amgylchiadau yn newid?

Gallwn edrych ar eich anghenion eto ac os yw eich anghenion yn cynyddu mae’n bosibl y bydd eich taliadau yn cynyddu i adlewyrchu hyn. Os bydd eich amgylchiadau’n gwella, mae’n bosibl y bydd eich taliadau yn lleihau i adlewyrchu’r newidiadau hyn.

Beth os nad ydw i am barhau â Thaliadau Uniongyrchol?

Os yw eich amgylchiadau’n newid ac nad oes angen Taliadau Uniongyrchol arnoch mwyach bydd y cynllun cefnogi yn eich helpu i ddod â nhw i ben. Os ydych am ganslo eich Taliadau Uniongyrchol ond eich bod yn parhau i fod ag angen gwasanaethau, gallwch ddewis gael y gwasanaethau hyn wedi eu darparu neu eu trefnu gennym ni.

DEWIS Cymru

Cysylltwch â Ni