Ar-lein, Mae'n arbed amser
Rheoli materion ariannol personol
Os ydych yn teimlo na allwch reoli eich materion ariannol eich hun neu os wyddoch am unigolyn sydd ag angen cymorth, mae’n bosibl y gallwn helpu.
Mae’n bosibl y bydd yr adran yn gallu bod o gymorth mewn un o ddwy ffordd a restrir isod yn ddibynnol ar amgylchiadau’r unigolyn.
Penodeiaeth
Dyma beth sy’n digwydd pan fo’r adran yn derbyn ac yn rheoli budd-daliadau person oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau. Yna caiff yr incwm hwn ei ddefnyddio i dalu ffioedd gofal a chyflwyno lwfansau personol. Er mwyn derbyn y cymorth hwn rhaid i’r person gymhwyso drwy fodloni’r meini prawf canlynol:
- Mae’n rhaid bod yr Adran Gwasanaethau Cymunedol yn gwybod am y person
- Preswylio mewn Cantref Preswyl / Nyrsio yn barhaol
- Ddim yn berchen ar ei eiddo ei hun
- Heb swm sylweddol o gynilion
- Heb benodai eisoes, neu aelod o’r teulu sy’n barod i ddyfod yn benodai
- Heb y gallu i ddelio â’i fudd-daliadau / incwm ei hun
Dirprwyaeth
Dyma beth sy’n digwydd pan fo’r adran yn rheoli’r holl incwm ac asedau ac yn gwneud trefniadau i dalu’r holl filiau ar ran y person. Fel dirprwy bydd yr adran hefyd yn cymryd rhan wrth wneud penderfyniadau er budd gorau’n cleient.
- Mae’n rhaid bod yr Adran Gwasanaethau Cymunedol yn gwybod am y person
- Rhaid bod y person yn cael ei farnu i fod yn ‘analluog eu meddwl’ (yn ôl barn feddygol ysgrifenedig) i reoli ei faterion ariannol ei hun neu ei asedau.
- Rhaid bod gan yr unigolyn arbedion neu ased (fel adeilad/eiddo y mae’n berchen arno)
- Nid oes unrhyw un arall sy’n gallu neu sy’n addas i ymddwyn fel dirprwy yn y llys, fel perthynas, cyfaill neu gyfreithiwr.
Sut fyddai’r unigolyn yn cael mynediad at ei arian?
Gellir trefnu bod yr unigolyn yn cael mynediad at arian personol i’w wario drwy:
- Cyfrif sylfaenol drwy ddefnyddio cerdyn neu rif pin
- Aelod o’r staff er enghraifft rheolwr gofal neu weithiwr cymorth yn casglu arian parod ar ei ran.
- Talu’n uniongyrchol i’r cartref preswyl / gofal y mae’n byw ynddo
Sut i ymgeisio
Os yw’r unigolyn dan sylw’n bodloni’r meini prawf a amlinellwyd uchod ac os ydych chi’n meddwl y gallwn helpu, ffoniwch y Tîm ar Ddyletswydd ar 01685 724507.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i am ddyfod yn benodai neu’n ddirprwy?
Os ydych chi am ddyfod yn benodai ar gyfer unigolyn yna dylech gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau ar 0845 60 60 265 a fydd yn rhoi’r cyngor angenrheidiol i chi a chynnig gwybodaeth bellach i chi.
Er mwyn gwneud cais i ddyfod yn ddirprwy, ymwelwch â gwefan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am wybodaeth bellach (gweler y Dolenni Perthnasol ar ymyl dde’r dudalen hon).
Beth os oes gen i bryderon ynghylch rhywun sydd eisoes yn gweithredu fel penodai neu ddirprwy?
Os ydych chi’n drwgdybio bod rhywun yn camddefnyddio arian person arall yna dylech roi gwybod am hyn i’r Tîm ar Ddyletswydd ar ran y gwasanaethau cymdeithasol ar 01685 724507 a fydd yn trosglwyddo’r manylion i’r cydlynydd Amddiffyn Oedolion sy’n Agored i Niwed a dechrau ymchwiliad sy’n cynnwys yr heddlu os bydd hynny’n angenrheidiol.
Gwybodaeth Bellach
Am ragor o wybodaeth a chyngor ynghylch dirprwyo neu benodeiaeth gallwch gysylltu â’r Tîm Asesu Ariannol a Chodi Tâl ar 01685 725069.