Ar-lein, Mae'n arbed amser
Trwydded casglu o ddrws i ddrws
Mae angen trwyddedu casgliadau am arian o ddrws i ddrws a/neu nwyddau, gan gynnwys casgliadau amlen a’r rheini o dafarn i dafarn. Mae’r Swyddfa Gartref yn trwyddedu casgliadau cenedlaethol fel Cymorth Cristnogol ac yn y blaen ac mae’r Cyngor yn rheoleiddio casgliadau llai ac unrhyw rai heb Orchymyn Esemptio’r Swyddfa Gartref sy’n digwydd ym Mwrdeistref Merthyr Tudful.
Rhaid ymgymryd â casgliadau o ddrws i ddrws a caiff eu trwyddedu gan y Cyngor yn unol â Deddf Casglu o Ddrws i Ddrws 1939.
Gwneud Cais am Gasglu o Ddrws i Ddrws
Cynghorir unrhyw un sydd am ymgymryd â chasglu o ddrws i ddrws, gysylltu â’r Adran Drwyddedu i wirio argaeledd dyddiadau. Mae’n bolisi gan y Cyngor ganiatáu un casgliad yn unig mewn un lleoliad ar unrhyw adeg.
Cyn gynted ag y bydd cytuno ar ddyddiad sydd ar gael gellir ei archebu dros dro, ond rhaid i ni dderbyn ffurflen gais wedi ei chwblhau cyn i ni gyflwyno trwydded caniatáu.
Rhaid gwneud ceisiadau o leiaf 28 niwrnod cyn y dyddiad casglu a ddymunir.
Nid oes ffi ar gyfer Trwydded Caniatáu Casglu o ddrws i ddrws.
Trefnu Casglu o ddrws i ddrws
Wrth drefnu casglu o ddrws i ddrws rhaid i Ddeiliad y Drwydded sicrhau fod:
- Y caniatâd angenrheidiol ysgrifenedig gennych oddi wrth y Cyngor.
- Eich bod wedi darllen ac ymgyfarwyddo â’r rheoliadau.
- Ni ddylid ymgymryd â chasgliad mewn modd a fydd yn peri anghyfleustra neu’n cythruddo unrhyw berson.
- Rhaid i bob casglwr wisgo bathodyn safonol a chario tystysgrif awdurdodi, gellir cael y ddau oddi wrth HMSO.
- Mae casglwyr yn dangos eu bathodyn ar ofyn i breswylydd unrhyw dŷ neu unrhyw heddwas.
- Rhaid i bob casglwr fod dros 16 mlwydd oed.
- Os yw casglwr yn cario blwch casglu, rhaid iddo fod wedi ei selio, ei rifo a dangos yn glir enw’r elusen neu’r gronfa a gaiff fudd ohono.
Ar ôl casglu
Ar ôl gorffen casglu o ddrws i ddrws:
- Ni ddylai casglwyr fyth gael mynediad i gynnwys y blychau casglu, cyn eu bod yn cael eu dychwelyd i’r hyrwyddwr, ar gyfer eu hagor a’u cyfri.
- Ddim ond ym mhresenoldeb yr hyrwyddwr a pherson cyfrifol arall y dylai’r blychau gael eu hagor. Pan fydd y blychau wedi eu hagor, dylai’r cynnwys gael ei gyfri ar unwaith a’r swm a gasglwyd ym mhob blwch ei gofnodi.
- Ar ôl y casglu rhaid i’r hyrwyddwr gwblhau ffurflen dreth er budd y Cyngor, o fewn un mis o ddyddiad terfyn y drwydded. Rhaid i’r hyrwyddwr dystio’r ffurflen dreth hon a chael ail lofnod gan gyfrifydd cymwysedig.
Am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais cysylltwch â ni.