Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trwydded Casgliadau Stryd

Mae’n ofynnol i unrhyw berson sy’n bwriadu un ai casglu arian neu werthu eitemau er budd dibenion elusennol neu bwrpas arall mewn unrhyw stryd gael trwydded caniatáu casglu ar y stryd oddi wrth yr Adran Drwyddedu. Mae casglu ar y stryd yn cynnwys unrhyw briffordd, pont gyhoeddus, ffordd, lôn, llwybr troed, sgwâr, cwrt, lôn gefn neu basej boed yn dramwyfa ai peidio neu fan cyhoeddus o fewn Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful.

Mae Deddf Yr Heddlu, Ffatrïoedd ac yn y blaen (Darpariaethau Amrywiol) 1916 a Rheoliadau Casglu ar y Stryd yn gosod allan y gyfraith mewn perthynas â chasglu ar y stryd.

Gwneud Cais am Drwydded Caniatáu Casglu ar y Stryd

Caiff unrhyw un sydd am ymgymryd â chasglu ar y stryd ei gynghori i gysylltu â’r Adran Drwyddedu i wirio argaeledd dyddiadau. Y mae’n bolisi gan y Cyngor i ganiatáu ddim ond un casgliad mewn lleoliad ar unrhyw adeg, yr unig eithriad i’r rheol hwn yw Diwrnod Plant Mewn Angen neu Ddiwrnod Trwyn Coch.

Pan gytunir ar ddyddiad sydd ar gael gellir ei archebu dros dro, ond rhaid i ni dderbyn cais wedi ei gwblhau cyn bod trwydded yn cael ei chyflwyno. Rhaid gwneud cais o leiaf 28 niwrnod cyn y dyddiad casglu y gofynnwyd amdano.

Nid oes ffi am Drwydded Caniatáu Casglu ar y Stryd.

Trefnu Casglu ar y Stryd

Wrth drefnu Casglu ar y Stryd rhaid i Ddeiliad y Drwydded sicrhau:-

  • Ei fod wedi cael awdurdod ysgrifenedig oddi wrth y Cyngor i gasglu arian;
  • Ei fod wedi rhoi awdurdod ysgrifenedig i’r person(au) i gasglu ar ei gyfer (Gall y Swyddog Trwyddedu neu’r Heddwas ofyn am gopi o’r llythyr);
  • Ni ddylid ymgymryd â chasgliad mewn modd a fydd yn peri anghyfleustra neu’n aflonyddu ar unrhyw berson;
  • Bod casglwyr mewn un man ac nid o fewn 25 metr i gasglwr arall;
  • Nad yw unrhyw gasglwr yn iau na 16;
  • Bod pob casglwr yn cario tun casglu;
  • Dylai pob tun fod wedi ei selio a’i rifo a dangos enw’r elusen sy’n elwa ac enw’r sefydliad casglu (os yw’n wahanol);

Ar ôl casglu

Ar ôl casglu ar y stryd:

  • Dylai’r tuniau casglu gael eu hagor ym mhresenoldeb hyrwyddwr neu dyst, neu, os nad ydynt wedi eu hagor, eu hanfon at fanc i’w hagor a’u cyfri gan rywun swyddogol;
  • Ar ôl agor y tuniau, dylai cynnwys bob un gael ei ychwanegu at restr a’i ardystio gan y rheini sy’n bresennol;
  • Rhaid cyflwyno ffurflen dreth i’r Cyngor yn dangos cyfanswm y symiau a gasglwyd, y symiau o bob tun a’r rhestr o gasglwyr o fewn 1 mis o’r casgliad;

Ni all unrhyw hyrwyddwr nac unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r casgliad dderbyn taliad oddi wrth y casgliad.

Casgliadau Debyd Uniongyrchol

Y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn dehongli nad yw’n ofynnol cael trwydded ar gyfer codi arian yn ôl debyd uniongyrchol o dan Ddeddf yr Heddlu, Ffatrïoedd ac yn y blaen (Darpariaethau Amrywiol) 1916.

Cysylltwch â Ni