Ar-lein, Mae'n arbed amser

Trwydded Gweithredwyr Cerbydau Llogi Preifat

Gall cerbydau Hurio Preifat a gyrwyr gael eu cyflenwi’n unig gan Weithredwr Hurio Preifat trwyddedig. Gall unigolyn neu gwmni cyfyngedig wneud cais am drwydded gweithredu i weithredu o safle oddi fewn i’r fwrdeistref.


Gofynnir i Weithredwyr gadw cofnod o bob archeb. Gall hyn gynnwys cofnodion ar bapur neu ar gyfrifiadur.


Mae gan Awdurdodau Trwyddedu gyfrifoldeb dros sefydlu a yw ymgeisydd yn unigolyn “iach a chymwys” cyn iddynt ddyfarnu trwydded. 


Er mwyn cwblhau’r broses ymgeisio, mae’n rhaid i chi ddarparu:


• Ffurflen gais sydd wedi ei chwblhau -ffurflen gais;
• Ffurflen Ganiatâd Gyrru Manylach y DVLA oni bai eich bod yn ddeiliad bathodyn gyrrwr gan yr Awdurdod hwn – bydd hwn yn cael ei roi i chi yn ystod eich apwyntiad;
• Tystysgrif sylfaenol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd oni bai eich bod yn ddeiliad bathodyn gyrrwr gan yr Awdurdod hwn -  bydd cais y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cael ei gwblhau yn ystod eich apwyntiad;
• 3 gwahanol fath o ddogfen adnabod er mwyn cwblhau gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd os oes angendogfennau gwiriad adnabod y DBS;
• Tystiolaeth fod hawl gennych weithio yn y DU os ydych yn gwneud cais fel unigolyn - dogfennau sy'n arddangos eich gallugrwydd I weithio yn y DU.


Mae’n rhaid i bob cais gael ei gwneud wyneb yn wyneb. Er mwyn gwneud cais, mae gofyn i chi drefnu apwyntiad â’r Adran Drwyddedu. Os byddwch yn cyrraedd heb wneud apwyntiad, mae’n annhebygol y bydd staff yn eich gweld. Cysylltwch â’r Adran Drwyddedu ar 01685 725000 er mwyn trefnu apwyntiad.


Cynghorir fod y dogfennau canlynol yn cael eu darllen cyn i chi wneud apwyntiad:

Ffioedd
Atodlen Amodau - Trwydded Gweithredwr Cerbyd Llogi Preifat

Cysylltwch â Ni