Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cyfamod Cymunedol i'r Lluoedd Arfog
Dysgwch am y gwasanaeth rydym yn ei ddapraru i bersonél ein lluoedd arfog.
Cyfamod – Gwybodaeth Gyffredinol
Gwybodaeth am y gwasanaethau rydym yn eu cynnig i helpu’r lluoedd arfog a’u teuluoedd.
Teulu
Mae amrywiaeth eang o wasanaethau gennym i helpu i greu teuluoedd cryf.
Iechyd a Llesiant
Cymerwch fantais o ganolfannau hamdden lleol neu sicrhau cefnogaeth arbenigol ar gyfer problemau iechyd meddwl neu gorfforol.
Gwasanaethau Tai
Mae ble yr ydych chi’n byw yn effeithio ar eich iechyd a’ch llesiant cyffredinol. Rydym yn darparu amrywiaeth o atebion gan gynnwys cynorthwyo prynwyr tro cyntaf gyda morgais neu eiddo fforddiadwy, addasiadau i’r cartref neu helpu i gynnal annibyniaeth
Materion Ariannol
Gall yr hinsawdd economaidd heriol fod hyd yn oed yn galetach os ydych chi’n profi problemau iechyd ac iechyd meddwl neu yn paratoi i ddechrau hyfforddiant neu gyflogaeth newydd.
Addysg a Chyflogaeth
Gallwn eich helpu chi i ddychwelyd at addysg a chyflogaeth ar ôl eich gwasanaeth yn y Lluoedd Arfog, gan weithio ar draws amrywiaeth o sefydliadau partner i’ch arwyddbostio chi at y bobl sy’n gallu helpu.
Cronfa Grant Cyfamod
Mae Cronfa’r Cyfamod yn derbyn £10 miliwn bob blwyddyn i gefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog drwy ariannu prosiectau sy’n mynd i’r afael â blaenoriaethau penodol.
Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr
Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddedig am ddim i aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog yn Merthyr Tudful. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys ystod o wasanaethau gan gynnwys Budd-daliadau, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Cyllid, Cyflogaeth a Thai.