Ar-lein, Mae'n arbed amser

Rôl cynghorwyr

Mae yna 30 o Gynghorwyr lleol a 11 Ward Etholaethol yn cynrychioli Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. 

Maent yn dod o amryw o grwpiau gwleidyddol a hwy sy’n gwneud penderfyniadau’r Cyngor; sy’n cytuno ar bolisïau ac ar flaenoriaethau gwariant. 

Etholir Cynghorwyr Lleol yn ystod Etholiadau Llywodraeth Leol i benderfynu ar sut y dylai’r Cyngor weithredu ei swyddogaethau amrywiol. Maent yn cynrychioli unigolion sy’n byw oddi fewn i’w ward ac yn cynrychioli buddiannau’r cyhoedd sy’n byw oddi fewn i’r Fwrdeistref Sirol. Daw Cynghorwyr i gysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd yng Nghyfarfodydd y Cyngor, trwy alwadau ffôn ac mewn cyfarfodydd syrjeri.  

Disgwylir i chi fel cynghorydd:

  • Ymgysylltu â’ch Cymuned Leol:  Bydd angen ichi ddeall anghenion eich cymuned a rhoi llais i’r rhai a allai fel arall gael eu tangynrychioli. Gellir gwneud hyn trwy ddechrau sgyrsiau ar gyfryngau cymdeithasol, cael sgwrs ar y stryd fawr neu gynnal cymhorthfa i gyflawni gwaith achos;
  • Ymgymryd â Gwaith Achos: Gallai hyn ymwneud â datrys problem leol neu roi pobl mewn cysylltiad â’r Cyngor neu sefydliadau eraill a all helpu;
  • Ymddwyn yn Briodol: Mae angen i’r cyhoedd deimlo’n hyderus eich bod yn cyrraedd y safonau uchel y mae ganddyn nhw’r hawl i’w disgwyl gennych chi. Mae cynghorwyr wedi’u rhwymo gan God Ymddygiad Statudol bob amser.
  • Mynychu Cyfarfodydd y Cyngor: Mae yna nifer o gyfarfodydd y bydd gofyn i chi eu mynychu fel cynghorydd gan gynnwys Y Cyngor; Cabinet; Trosolwg a Chraffu a Pwyllgorau Rheoleiddio
  • Cynrychioli'r Awdurdod: Penodir cynghorwyr hefyd i gyrff lleol allanol fel cyrff llywodraethu ysgolion a phartneriaethau lleol, naill ai fel cynrychiolwyr y Cyngor neu fel ymddiriedolwyr neu gyfarwyddwyr. Mae rhai cynghorwyr hefyd yn rhan o awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau parc cenedlaethol. Os bydd cynghorydd yn aelod o blaid wleidyddol, bydd disgwyl ichi hefyd fynychu cyfarfodydd grŵp gwleidyddol, hyfforddiant gyda’ch plaid ac achlysuron eraill.

Pa gefnogaeth sydd ar gael?

Bydd gan y sawl a’ch etholodd chi ddisgwyliadau uchel o’u cynghorydd lleol o’r cychwyn cyntaf, felly fel Cyngor byddwn yno i’ch cefnogi chi o’r diwrnod cyntaf un.

Dysgu

Gall gymryd cryn amser i ddeall yr hyn y mae’r Cyngor yn ei wneud a’ch rôl chi ynddo. Mae yna ddeddfau, rheolau, polisïau a gweithdrefnau i fynd i’r afael â nhw. Rydyn ni’n deall y gall hyn fod yn felly, rydyn ni’n cynnig rhaglen gyfeiriadu a sefydlu fel y gall aelodau newydd ymgyfarwyddo â’u rôl.  Darperir hyfforddiant parhaus yn ôl eich anghenion gan gynnwys cymorth TG, y drefn ar gyfer cadeirio cyfarfodydd neu hyd yn oed gymryd rhan mewn cyfweliadau radio.

Cliciwch yma i gael y profiad E-Ddysgu a ddarperir gan Awdurdod Llywodraeth Leol Cymru i’ch helpu chi i ddechrau.

Cyflog a Chefnogaeth Ariannol

Mae pob Cynghorydd yn derbyn sylfaenol am eu hymrwymiad a’u cyfraniad. Bydd y cynghorwyr hynny sy’n ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol, e.e. bod yn aelod o’r Cabinet, yn gadeirydd pwyllgor neu’n arweinydd eu grŵp gwleidyddol, yn derbyn taliad ychwanegol. Gelwir hyn yn “gyflog uwch” ac mae’n cael ei gyfrifo ar sail maint y Cyngor.

Cymorth Ychwanegol

Mae gan gynghorwyr sydd â theuluoedd ifanc, cyfrifoldebau gofalu neu anghenion Cymorth personol hawl i gymorth ariannol ychwanegol a threfniadau gweithi hyblyg.  Mae ganddynt hefyd hawl i absenoldeb teuluol â thâl a threfniadau Cymorth o amgylch absenoldeb rhianta mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu, yn ogystal â salwch â thâl.

Ceir gwybodaeth am yr holl gymorth sydd ar gael yn adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth ariannol sy'n cael ei ddiweddaru'n flynyddol.